Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am yr help ariannol a roddwyd gan awdurdodau lleol i wella ac atgyweirio tai o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (Deddfwriaeth y DU). Mae'n cynnwys gwybodaeth am grantiau ar gyfer cyfleusterau i'r anabl (GCAau), a gymeradwywyd o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (Deddfwriaeth y DU). Mae'r cymorth wedi'i anelu'n bennaf at wella tai'r sector preifat ond mae ar gael ar gyfer tai cymdeithasol hefyd drwy gynlluniau adnewyddu tai. Defnyddir y wybodaeth a gaiff ei chyflwyno yn y datganiad hwn i fonitro tueddiadau o ran ymdrechion awdurdodau lleol i wella ansawdd y stoc dai. Mae tablau manylach sy'n dangos gwybodaeth yn ôl awdurdodau lleol unigol ar gael ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

  • Yn 2021-22, y gwariant cyffredinol ar gymorth ar gyfer gwelliannau tai (gan gynnwys GCAau) oedd £36.3 miliwn.
  • O'r gwariant cyffredinol hwnnw, gwariwyd £26.8 miliwn (73.9%) ar GCAau gorfodol.
  • Y gwariant cyfartalog fesul GCA gorfodol oedd £8,100.

Gwariant cyffredinol (gan gynnwys GCAau)

Mae'r adran hon yn ystyried gwariant cyffredinol awdurdodau lleol ar waith i wella ac atgyweirio cartrefi â chymorth, gan gynnwys:

  • gwariant uniongyrchol awdurdodau lleol (ar ffurf grantiau a benthyciadau)
  • GCAau gorfodol ac anorfodol, sy'n cyfrannu at addasiadau sy'n galluogi person anabl i fyw yn ei gartref o hyd
  • gwariant anuniongyrchol awdurdodau lleol (ar ffurf cymorth trydydd parti a benthyciadau wedi'u hwyluso gan awdurdodau lleol)
  • cyfraniadau ariannol a wnaed gan breswylwyr unigol

Nid yw'n cynnwys gwariant gan unigolion nad yw'n ymwneud â'r awdurdod lleol neu nad yw wedi'i gefnogi gan yr awdurdod lleol.

Ffigur 1: Gwariant cyffredinol (£ miliynau) ar gymorth ar gyfer gwelliannau tai yn ôl y math o wariant, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae siart colofn yn dangos, ers 2012-13, bod y gwariant cyffredinol ar gymorth i wella tai yn amrywio rhwng £36 miliwn a £51 miliwn, gyda Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r gwariant cyffredinol.

Fynhonnell: Cymorth Blynyddol ar gyfer gwelliannau tai a grantiau ar gyfer cyfleusterau i'r anabl ar gyfer ffurflenni tai gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Yn cynnwys cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol gan awdurdodau lleol, GCAau anorfodol a chyfraniadau gan breswylwyr.

[Nodyn 2] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig y Coronafeirws (COVID-19).   

(r) Diwygiwyd y data ar gyfer 2020-21 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.                                   

Yn 2021-22, y gwariant cyffredinol ar wella ac atgyweirio cartrefi oedd £36.3 miliwn. Er bod hyn yn gynnydd o 22.8% o gymharu â'r gwariant a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol (£29.5 miliwn (d)), ni chyrhaeddodd y lefelau a welwyd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19) ((£45.7 miliwn yn 2018-19).

Yn 2021-22, roedd 73.9% o'r gwariant cyffredinol (£26.8 miliwn) ar GCAau gorfodol). Roedd y gyfran hon yn debyg i'r gyfran a gofnodwyd cyn y pandemig (cyfartaledd o 73.1% rhwng 2016-17 a 2018-19). Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd £1.7 miliwn pellach (4.6% o'r gwariant cyffredinol) ar GCAau anorfodol.

Rhwng 2018-19 a 2020-21, cynyddodd y swm a gafodd ei wario ar gymorth anuniongyrchol gan awdurdodau lleol (ar ffurf cymorth trydydd parti a benthyciadau wedi'u hwyluso) bron i bedair gwaith (o £256,800 i £1 miliwn). Yn 2021-22, cynyddodd hyn ymhellach i £1.1 miliwn (sef 2.9% o'r gwariant cyffredinol).

Ffigur 2: Cyfanswm gwariant (£ miloedd) am 1,000 anheddau yn ôl awdurdod lleol, 2021-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae map yn dangos fod y gwariant mwyaf ar gyfer pob 1,000 o anheddau wedi'u canfod yn Merthyr Tudful, Ceredigion, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Ddinbych, gyda dros £30,000 wedi'i wario fesul 1,000 o anheddau.

Ffynhonnell: Arolygon Cymorth ar gyfer gwelliannau tai a Grantiau ar gyfer cyfleusterau i'r anabl ar gyfer tai a blynyddol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol

[Note 1] Yn seiliedig ar Amcangyfrifon stoc annedd ar 31 Mawrth 2020.

Ar lefel awdurdodau lleol, nodwyd y gwariant cyffredinol uchaf yn 2021-22 gan awdurdod lleol Caerdydd, sef £6.1 miliwn (sy'n cyfateb i wariant o £39,700 fesul 1,000 o anheddau). Er bod y gwariant cyffredinol yn is yng Ngheredigion (£1.6 miliwn) a Merthyr Tudful (£1.3 miliwn), yr awdurdodau lleol hyn a nododd y gwariant uchaf fesul 1,000 o anheddau (£45,500 a £49,000 yn y drefn honno).

O gymharu â 2020-21, gwelwyd y cynnydd mwyaf o ran gwariant cyffredinol ym Merthyr Tudful (o £150,000 i £1.3 miliwn) a Chastell-nedd Port Talbot (o £1.4 miliwn i £2.5 miliwn). Gwelwyd y cynnydd mwyaf o ran gwariant fesul 1,000 o anheddau hefyd ym Merthyr Tudful (o £6,000 i £49,000) a Chastell-nedd Port Talbot (o £21,000 i £37,500).

GCAau

Mae'r adran hon o'r datganiad yn canolbwyntio ar GCAau gorfodol (a gymeradwywyd o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (Deddfwriaeth y DU)) a GCAau anorfodol ychwanegol (gan gynnwys benthyciadau a grantiau 'atodol').

Yn 2021-22, gwariwyd £26.8 miliwn ar GCAau gorfodol, cynnydd o 32.4% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf y cynnydd hwn, roedd cyfanswm y gwariant ar GCAau gorfodol yn is na'r blynyddoedd blaenorol (cofnodwyd cyfartaledd gwariant o £32.9 miliwn rhwng 2016-17 a 2018-19).

Ffigur 3: Y gwariant cyfartalog (£) fesul GCA gorfodol yn ôl awdurdod lleol, 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: mae siart bar yn dangos, ar lefel awdurdod lleol, bod y gwariant ar gyfartaledd fesul Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn 2021-22 yn £12,000 ar ei uchaf yn Gwynedd ac ar ei isaf yn £3,000 yn Conwy.

Ffynhonnell: Grantiau blynyddol ar gyfer cyfleusterau i'r anabl ar gyfer ffurflenni tai gan awdurdodau lleol

Yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf, cwblhawyd cyfanswm o 3,303 o GCAau gorfodol. Y gwariant cyfartalog fesul GCA gorfodol oedd £8,100, a oedd yr un peth â'r flwyddyn flaenorol. Ar lefel awdurdodau lleol, roedd y gwariant cyfartalog fesul GCA gorfodol yn amrywio o £11,900 yng Ngwynedd i £3,400 yng Nghonwy.

Yn 2021-22, gwariwyd £1.7 miliwn pellach ar GCAau anorfodol. Roedd hyn yn ostyngiad o 24% o gymharu â 2020-21 ac yn is na'r cyfartaledd a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol (£2.1 miliwn rhwng 2016-17 a 2018-19).

Gwelliannau tai (heb gynnwys GCAau)

Yn 2021-22, gwariwyd £7.8 miliwn ar welliannau tai drwy grantiau awdurdodau lleol, benthyciadau, cymorth trydydd parti a chyfraniadau gan breswylwyr. Roedd hyn yn gynnydd o 9.8% o gymharu â 2020-21. Cafodd cyfanswm o 3,575 o anheddau eu gwella drwy'r gwariant hwn, cynnydd o 18.2% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf yr achosion hyn o gynnydd, roedd y gwariant a nifer yr anheddau a gafodd eu gwella yn is na'r blynyddoedd blaenorol o hyd (yn 2018-19, gwariwyd £11.3 miliwn ar waith i wella 6,727 o gartrefi). Y gwariant cyfartalog fesul annedd oedd £2,200, sy'n gyson â'r 10 mlynedd diwethaf.

Ffigur 4: Nifer yr anheddau a gafodd eu gwella yn ôl deiliadaeth, 2021-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae siart bar yn dangos bod mwyafrif yr anheddau wedi'u gwella yn eiddo i berchen-feddianwyr (60.5%) neu rhent cymdeithasol (17.7%) yn 2021-22.

Ffynhonnell: Cymorth blynyddol ar gyfer ffurflenni gwelliannau tai gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Heb gynnwys anheddau a gafodd eu gwella drwy GCAau yn unig.

Yn 2021-22, roedd y rhan fwyaf o'r anheddau a gafodd eu gwella yn eiddo i berchen-feddianwyr (60.5%). Gwnaed cyfran lai o'r gwelliannau mewn anheddau rhent cymdeithasol (17.7%) neu anheddau rhent preifat (3.5%). Mae'r rhaniad deiliadaeth ar gyfer anheddau a gafodd eu gwella wedi parhau'n gymharol sefydlog dros y 10 mlynedd diwethaf.

Yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf, cafodd 62.1% o anheddau eu gwella i bobl ag anableddau a 30% i'r henoed (pobl 60 oed a throsodd). Er y bu mwy o amrywiadau yn nosbarthiad yr anheddau a gafodd eu gwella yn ôl y math o dderbynnydd, mae'r cyfrannau hyn yn debyg i'r cyfrannau hynny a gofnodwyd rhwng 2014-15 a 2018-19 (58.9% ar gyfer pobl ag anableddau a 29.1% ar gyfer yr henoed). Nodwch os bydd derbynnydd yn y categori anabl a chategori'r henoed, dim ond yn y categori anabl y bydd wedi cael ei gyfrif.

Mae cryn dipyn o amrywiad yn y cymorth a gaiff ei ddarparu ar lefel awdurdodau lleol, o ganlyniad i'r gwahanol bolisïau cymorth gwelliannau tai a chynlluniau grant. Yn 2021-22, dim ond 11 o'r 22 o awdurdodau lleol a nododd unrhyw wariant nad oedd yn gysylltiedig â GCAau, a dim ond tri awdurdod lleol a gyfrannodd at gyfran sylweddol o'r £7.8 miliwn a wariwyd (Gwynedd oedd yn gyfrifol am 20.8%, Casnewydd am 25.7% a Wrecsam am 35.2%).

Ardaloedd adnewyddu

Sefydlwyd ardaloedd adnewyddu er mwyn gwella tai ac amwynderau cyffredinol ardal lle caiff problemau cymdeithasol ac amgylcheddol eu cyfuno â thai gwael. Roedd cynlluniau adnewyddu ardal yn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio eu gweithgarwch a'u buddsoddiad ar ardaloedd lle ceir angen am gymorth yn ogystal â photensial i adfywio.

Mae gwariant ar ardaloedd adnewyddu wedi gostwng yn raddol dros y 10 mlynedd diwethaf, o £33.6 miliwn yn 2012-13 i £310,000 yn 2021-22. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf, cynllun atgyweirio grŵp yng Nghonwy oedd yn gyfrifol am yr holl wariant ar ardaloedd adnewyddu (£310,400).

Casgliadau yn y dyfodol

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd adroddiad ymchwil yn crynhoi gwybodaeth am yr addasiadau tai a gwblhawyd yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Cafodd y data yn yr adroddiad hwn eu casglu'n uniongyrchol gan ddarparwyr addasiadau gan Lywodraeth Cymru. Cafwyd data gan yr 13 o asiantaethau Gofal a Thrwsio, y 22 o awdurdodau lleol a'r 29 o gymdeithasau tai. Ni chafodd ffurflenni eu cyflwyno gan chwe chymdeithas dai, yr oedd dwy ohonynt yn gyrff Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr a ddaeth yn berchnogion ar dai cyngor blaenorol. Felly nid yw'r adroddiad hwn yn cynnig darlun cenedlaethol cyflawn o'r addasiadau tai a wnaed. Fodd bynnag, o ystyried cwmpas y trefniadau casglu data hyn, rydym yn ystyried a allai ddisodli'r wybodaeth a gaiff ei chasglu bob blwyddyn ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol am gymorth ar gyfer gwelliannau  tai, fel y cyhoeddir yn y datganiad hwn. Byddwn yn adolygu cynnwys a chwmpas y datganiad hwn maes o law a byddem yn croesawu unrhyw adborth ar y cynigion cynnar hyn.

Anfonwch eich sylwadau drwy e-bost i: ystadegau.amodautai@llyw.cymru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran y gallu i ymddiried ynddynt, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU eu hasesu. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn amau a yw'r ystadegau hyn yn cyrraedd y safonau priodol o hyd, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg lle na lwyddir i gynnal y safonau uchaf, a'i ailddatgan pan gaiff y safonau eu cyrraedd unwaith eto.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2012 ar ôl asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers adolygiad diweddaraf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi ehangu ar ein sylwebaeth i gynnwys mwy o gyd-destun polisi a chyd-destun gweithredol.
  • Wedi egluro cwmpas y datganiad (h.y. gwariant awdurdodau lleol yn ystod cyfnod penodedig o 12 mis).
  • Gwella'r gallu i ymddiried yn yr ystadegau drwy leihau/dileu mynediad cyn-cyhoeddi.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Maent yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.amodautai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 38/2023

Image
Ystadegau Gwladol