Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi set o gyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn ogystal â phecyn cymorth gwerth £340m.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r mesurau newydd yn cael eu cyflwyno wrth i achosion o’r coronafeirws gyflymu yng Nghymru unwaith yn rhagor, gan erydu’r cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar.

O ddydd Gwener, bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gorfod cau erbyn 6pm ac ni fydd hawl ganddynt weini alcohol. Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaeth tecawê y byddant yn gallu ei ddarparu.

Bydd rhaid i atyniadau i ymwelwyr a mannau adloniant dan do hefyd gau.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Yn anffodus, mae’r feirws yn symud yn hynod o gyflym ar draws Cymru ac mae’n erydu’r cynnydd roedden ni wedi’i wneud yn ystod y cyfnod atal byr. Mae angen inni nawr gymryd camau gyda’n gilydd fel cenedl i ddiogelu iechyd pobl ac arafu lledaeniad y coronafeirws.

Mae’r feirws hwn – a’r pandemig – yn dal i’n synnu ni mewn ffyrdd annymunol. Mae’n ffynnu ar ymddygiad arferol pobl o ddydd i ddydd ac yn yr holl fannau hynny lle rydyn ni’n dod at ein gilydd.

Mae hyn yn pwysleisio pam mae angen inni gymryd y camau pellach, wedi’u targedu hyn yn awr. Byddwn yn canolbwyntio ar y mannau hynny lle rydyn ni’n cyfarfod a lle mae’r coronafeirws yn ffynnu, gan dynnu oddi ar y dystiolaeth gan grwpiau o arbenigwyr SAGE am ba gyfyngiadau sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y feirws.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £340m arall o gymorth i fusnesau drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau pellach i’r rheoliadau. Bydd yn cynnwys cronfa benodol i gefnogi busnesau lletygarwch a thwristiaeth.

Mae cymorth newydd Llywodraeth Cymru wedi cael ei rannu yn ddwy gronfa: y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau sy’n werth £160m a chynllun grant penodol i sector gwerth £180m o dan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Mae’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn caniatáu i fusnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n talu ardrethi annomestig i gael mynediad at grantiau hyd at £5000.

Yn ôl yr amcangyfrif, mae tua 60,000 o fusnesau, gyda gwerth trethadwy o dan £150,000 yn cael y cymorth hwn.

Bydd busnesau nad ydynt ar y system ardrethi annomestig yn dal i allu gwneud cais i awdurdodau lleol ar gyfer grant dan Grant Dewisol y Cyfyngiadau a gallent gael hyd at  £2,000 o gymorth.

Yn ogystal â hynny, gall busnesau twristiaeth a hamdden hefyd gael mynediad at gynllun grant penodol i sector o dan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Gallai busnesau bach a chanolig sy'n bodloni'r meini prawf dderbyn hyd at £100k. Gallai busnesau mwy o faint yng Nghymru dderbyn hyd at uchafswm o £150k.

Mae disgwyl i’r rhan hon o’r pecyn  gefnogi hyd at 8,000 o fusnesau yn y sectorau hyn a 2,000 arall yn y cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cyllid a sut y gellir cael gafael arno yn cael ei gyhoeddi ar wefan Busnes Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i fusnesau a dyw’r penderfyniadau hyn ddim wedi bod yn hawdd eu gwneud.

Rydyn ni’n disgwyl i'r cyhoeddiad heddiw o £340m gefnogi degau o filoedd o fusnesau, a helpu i ddiogelu llawer mwy o swyddi a ffyrdd o fyw. Rhaid cofio hefyd fod cymorth Llywodraeth y DU hefyd ar gael i fusnesau.

Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cwmnïau a'n pobl drwy'r cyfnod heriol hwn.