Mae gweithio mewn partneriaeth yn arwain at ganlyniadau a chyfleoedd newydd ym maes Ynni a Rheoli Carbon.
Cymhwyster newydd i wneud cyfraniad hanfodol at sero-net
Wrth i Gymru wneud newidiadau mawr i gyrraedd sero-net, mae’n glir y bydd addysg ac uwchsgilio’n chwarae rôl hollbwysig.
I sicrhau bod yr hyfforddiant angenrheidiol ar gael i fusnesau a sefydliadau, mae ACT, Educ8 ac Agored Cymru wedi partneru i greu cymhwyster newydd y maen nhw’n teimlo fydd yn chwarae rôl bwysig mewn gweld Cymru’n gwireddu ei huchelgais.
Wrthi’n cael ei ddatblygu yw cymhwyster Lefel 3 newydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol fydd yn rhan o brentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon. Mae wedi’i ddylunio fel y gall busnesau a sefydliadau ar draws Cymru, mawr a bach, reoli eu hôl-troed carbon. Drwy edrych ar reoli ynni a charbon mewn ffordd holistig, bydd y cymhwyster yn fanteisiol i fusnesau o bob math a’i nod fydd helpu pobl i reoli effeithiau carbon, ynni ac amgylcheddol.
Mae ACT ac Educ8 mewn sefyllfa dda i ddarparu’r cymhwyster. Mae’r ddau gorff yn darparu hyfforddiant seiliedig ar waith drwy brentisiaethau i unrhyw un dros 16 oed, a hefyd Twf Swyddi Cymru+ sy’n cefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed. Yn y cyfamser, mae Agored Cymru yn gorff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru.
Matthew Burnett yw Pennaeth Gweithredol a Chontractau ACT:
Yn aml iawn mae hyfforddiant sero-net yn cael ei gysylltu â thechnoleg a pheirianneg hybrid ond dim ond rhan yw hynny o sut y bydd Cymru’n gwireddu ei huchelgais. Bydd yn greiddiol bwysig bod pob sefydliad yn gallu rheoli eu hôl-troed carbon yn effeithiol. Felly, mewn cydweithrediad ag Educ8 ac Agored Cymru, rydym yn cyflwyno cymhwyster newydd i wneud hyn.
Ac mae Matthew yn ffyddiog y bydd galw mawr am y cymhwyster Lefel 3 newydd, sy’n gyfwerth â Lefel A:
Bydd gan bob corff cyhoeddus swyddog amgylcheddol arweiniol a bydd angen y sgiliau hyn ar bob busnes bach hefyd oherwydd bydd y gofynion i fod yn gynaliadwy’n dod yn fwyfwy llym.
Mae’r cymhwyster newydd, fydd yn cael ei gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru ar ddechrau 2023 gobeithio, wedi’i ddylunio i fod yn berthnasol i fusnesau a sefydliadau, mawr a bach.
Ychwanegodd Matthew:
Rydym yn edrych ar hyn o safbwynt marchnad dorfol. Rydym wedi datblygu’r cymhwyster i fod yn berthnasol i Ymddiriedolaeth GIG gyda miloedd o staff, ond hefyd i gwmni lleol gyda dim ond llond llaw o weithwyr.
Bydd y cwrs yn helpu busnesau i ddadansoddi pa mor effeithlon yw eu defnydd o ynni er mwyn dod yn fwy cynaliadwy. Credwn y gallai hyn wneud cyfraniad sylweddol i gynllun sgiliau sero-net Cymru ac rydym eisoes yn gweld mwy o ymholiadau gan gyflogwyr am hyfforddiant o’r math hwn.
Drwy greu’r cymhwyster newydd, mae darparwyr yr hyfforddiant wedi gweithio ag arbenigwyr yn y sector amgylcheddol, gan gynnwys cwmni sy’n helpu busnes amlwladol mawr i ddod yn fwy carbon-effeithlon.
Mae cyflwyno’r math hwn o brentisiaeth yn golygu y gall pobl ennill sgiliau newydd hanfodol i helpu i greu Cymru wyrddach a glanach, mewn swydd gyflogedig:
Mae prentisiaeth yng Nghymru yn gymhwyster eang, gydol oes. Gall unrhyw un wneud y rôl os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf. Byddai angen iddynt fynychu gweithdai ac astudio’n ogystal â derbyn hyfforddiant ac asesiadau mewn-swydd.
Nid yw prifysgol o reidrwydd ar gael i bawb na’n addas i bawb, felly drwy wneud hyn rydym yn creu llwybr newydd i bobl gael derbyn cyflog a dysgu ac ennill cymwysterau ar yr un pryd. Ac mae’n hanfodol sicrhau bod y cymhwyster hwn mor hygyrch i bawb â phosib.
“Y dyhead yw bod gweithwyr yn ennill sgiliau newydd a ddaw’n fwyfwy pwysig wrth i ni gyrchu tuag at sero-net, ac yn eu tro bydd y bobl hyn yna’n rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth â chydweithwyr fel bod mwy o bobl yn ymwybodol o ôl-troed carbon a sero-net.
Fel yr eglura Judith Archer, Uwch Reolwr Datblygu Cynnyrch yn Agored Cymru:
Rydym yn gyffrous iawn am botensial y cymhwyster newydd hwn oherwydd mae’n gyfrifoldeb ac mae angen i bawb ystyried ein defnydd o ynni ac allyriadau carbon. Dyna pam ei bod mor bwysig bod y cymhwyster hwn yn berthnasol i fusnesau a sefydliadau o bob maint. Ac fel rhan o brentisiaeth, mae hefyd yn ffordd hyblyg o ennill cymwysterau sy’n fanteisiol nid yn unig i’r unigolyn ond, wrth gwrs, i’r gweithle hefyd.
Simone Hawken, Qualifications Manager at Educ8, adds:
This qualification has been written in recognition of Welsh Government's Net Zero Programme to ensure Wales becomes a net zero nation by 2050. It equips learners with the necessary knowledge, understanding and skills to enable them to become more sustainable and energy efficient at work and at home.
Global emissions are as high as they have ever been, and this qualification is key in helping us all to work and live more sustainably in future. Educ8 is proud to have worked in partnership with Agored Cymru, ACT and others on a qualification that will have such a positive impact on organisations and individuals across Wales.