Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Ionawr 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 815 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn cynnig ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer tair rôl Cyfarwyddwr Anweithredol er mwyn sicrhau cystadleuaeth fwy agored a theg.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Hoffem eich barn ar y canlynol:
- Cyfarwyddwr Anweithredol Awdurdod Lleol
- Cyfarwyddwr Anweithredol Prifysgol
- Cyfarwyddwr Anweithredol Sector Gwirfoddol
Ymddiriedolaeth sy’n rhan o’r GIG yw Iechyd Cyhoeddus Cymru (dolen allanol). Mae’n darparu cyngor a gwasanaethau iechyd y cyhoedd proffesiynol ac annibynnol er mwyn gwarchod a gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.
Dyletswydd y Bwrdd yw ychwanegu gwerth at y sefydliad gan ei alluogi i ddarparu ei wasanaethau a’i welliannau oddi mewn i’r gyfraith a heb achosi niwed. Mae’n gwneud hyn drwy ddarparu fframwaith o fesurau rheoli a llywodraethu da er mwyn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ffynnu ac ehangu.
Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn bartneriaid cyfartal gyda’u cydweithwyr gweithredol ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth. Maent yn cynnig barn annibynnol ar berfformiad penodiadau allweddol edrych ymlaen ac atebolrwydd.