Cymhorthdal Costau Byw ar gyfer Hosbisau
Cyfeirnod y cymhorthdal SC11067 - cymorth tymor byr i gynnal gwasanaethau clinigol a ddarperir gan hosbisau yng Nghymru ar y lefelau presennol a helpu i gadw eu gweithluoedd.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.
1. Rhanbarth
Bydd y cynllun ar waith ledled Cymru.
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Teitl y Cynllun Cymhorthdal yw Cymhorthdal Costau Byw ar gyfer Hosbisau.
3. Sail gyfreithiol y DU
Mae adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y caniateir i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn briodol er mwyn hyrwyddo neu wella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol Cymru. Caniateir arfer y pŵer hwn er budd neu mewn perthynas â Chymru gyfan, neu unrhyw ran ohoni, neu â phawb neu unrhyw rai sy'n byw neu sy'n bresennol yng Nghymru.
4. Amcanion y cynllun
Ystyrir bod y gweithgarwch sy'n cael ei gefnogi o dan y cynllun hwn yn 'Wasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus' ar y sail:
- bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu er budd y cyhoedd, ac
- na fyddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu na fyddai'n cael ei ddarparu ar y telerau gofynnol, gan fenter o dan amodau arferol y farchnad.
Yr amcan polisi penodol yw darparu cymorth tymor byr i gynnal gwasanaethau clinigol a ddarperir gan hosbisau yng Nghymru ar y lefelau presennol a helpu i gadw eu gweithluoedd. O ganlyniad, dylai gwasanaethau clinigol craidd a ddarperir gan hosbisau gael eu diogelu.
5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
Hosbisau sy'n darparu gwasanaethau craidd y GIG.
7. Sector(au) a gefnogir
Y sector gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol yw'r sector a fydd yn cael ei gefnogi gan y cynllun hwn. Yn benodol, y sector hosbisau.
8. Hyd y cynllun
Hyd y Cynllun yw rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yw £4 miliwn.
10. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Bydd hosbisau a gomisiynir gan fyrddau iechyd yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau clinigol yn gymwys i wneud cais am y cymhorthdal hwn.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Cyfrifir y cymhorthdal ar sail y costau cyflog a ysgwyddir o ran darparu gwasanaethau clinigol yn 2023/2024.
13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
Ni fydd unrhyw hosbis yn gymwys i gael mwy nag £1.1 miliwn.
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.