Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi cymhelliannau newydd i addysgu ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hefyd, am y tro cyntaf, mae Cyfrifiadureg wedi’i ychwanegu fel pwnc sy’n flaenoriaeth ac felly’n gymwys ar gyfer cymhelliannau ar y lefel uchaf.

Mae’r cymhelliannau fel a ganlyn:

  • Cymhelliant o £20,000 ar gyfer graddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf (neu ddoethuriaeth / gradd meistr) ac sy’n gwneud rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig uwchradd ym maes Mathemateg, Cymraeg, Cyfrifiadureg, Ffiseg a Chemeg.
  • Cymhelliant o £15,000 ar gyfer myfyrwyr ieithoedd modern sydd â gradd dosbarth cyntaf (neu ddoethuriaeth / gradd meistr).
  • Ychwanegiad o £3,000 ar ben y cymhelliant o £3,000 i gefnogi myfyrwyr sydd â gradd dosbarth cyntaf (neu ddoethuriaeth / gradd meistr) sy’n gwneud TAR cynradd y mae eu harbenigedd yn Saesneg, Cymraeg, Mathemateg, Cyfrifiadureg, Ffiseg neu Gemeg.
  • Cymhelliant newydd o £5,000 ar gyfer addysg gyfrwng Cymraeg a fydd yn ategu’r trefniadau cymorth cyfredol o dan y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg, gyda hyd at £2,500 yn daladwy ar sicrhau SAC a £2,500 arall yn daladwy ar gwblhau cyfnod sefydlu’n llwyddiannus mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, neu’n dysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd.
Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n amhosib gor-ddweud pa mor bwysig yw rôl athrawon yng nghenhadaeth ein cenedl i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg y gallwn, fel cenedl, hyderu ynddi a bod yn falch ohoni.

“Mae ein diwygiadau yn uchelgeisiol ac i’w cyflawni mae arnom angen athrawon brwdfrydig a thalentog. Rhaid inni ddenu’r graddedigion gorau a’u cefnogi i’r carn.  

“Yng Nghymru, mae recriwtio’n gallu bod yn heriol mewn rhai meysydd a phynciau ac mewn rhai ardaloedd. Dyma’r her; rhaid inni ymateb iddi.

“Dyna pam dw i wedi penderfynu cyhoeddi cymhelliannau ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 yn gynnar. Drwy wneud hynny, ry’n ni’n darparu eglurder a  sicrwydd i’n hathrawon mwyaf newydd.”

Hefyd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg gymhelliannau newydd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg:

“Os ydym am gyflawni nod uchelgeisiol Cymraeg 2050, mae angen inni gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’n ddwyieithog, drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc.

“Rydym ar y trywydd cywir gyda’n recriwtio athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, i gyflawni ein targed o recriwtio mwy o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2021, rhaid denu mwy a mwy o fyfyrwyr i Addysg Gychwynnol Athrawon cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn.

“I’r perwyl hwn, dw i’n cyhoeddi cymhelliant cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer athrawon-fyfyrwyr TAR sydd wrthi’n hyfforddi i addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.”

 

DarganfodAddysgu.cymru (dolen allanol)