Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r dechneg Cyfnod Callio yn gweithio orau os na fyddwch yn ei ddefnyddio’n rhy aml, gan ganmol ymddygiad positif.

Byddwch yn defnyddio’r dechneg Cyfnod Callio drwy beidio â rhoi sylw i’ch plentyn am gyfnod byr. Bydd eich plentyn gorfod symud i ffwrdd a gadael pethau sy’n hwyl iddo. Dydy’r plentyn ddim yn cael siarad â’i rieni nac unrhyw un arall. Dylai’r Cyfnod Callio fod yn ddiflas.

Weithiau efallai mai chi fydd angen y cyfnod hwn i bwyllo tra bod eich plentyn mewn lle diogel.

Beth sy’n gweithio

  • Mae’r dechneg Cyfnod Callio ar ei gorau wrth ei defnyddio gyda llawer o ganmoliaeth am ymddygiad da.
  • Mae’r dechneg Cyfnod Callio yn gweithio gyda phlant dros 3 oed. Y peth gorau i’w wneud gyda phlant bach yw ceisio tynnu eu sylw neu ailgyfeirio eu sylw.
  • Peidiwch â defnyddio’r dechneg Cyfnod Callio yn rhy aml ar gyfer ymddygiad dydych chi ddim yn gallu ei anwybyddu. Yn dibynnu ar yr ymddygiad, gall fod yn fwy addas rhoi canlyniad, fel gohirio gweithgarwch neu fynd â thegan y mae’ch plentyn yn ei fwynhau.
  • Mae’n syniad da gweithio ar newid un ymddygiad ar y tro. Meddyliwch sut fath o ymddygiad hoffech chi ei newid - er enghraifft, taro. Pan nad yw’r ymddygiad hwn yn broblem bellach, dechreuwch weithio ar ymddygiad arall.
  • Siaradwch am y peth gyda’ch plentyn. Mae’n syniad da siarad gyda’ch plentyn cyn defnyddio’r dechneg Cyfnod Callio, pan mae’r plentyn mewn hwyliau da. Eglurwch pa ymddygiad a fydd yn arwain at ddefnyddio’r dechneg Cyfnod Callio a beth fydd yn digwydd. Mae’n syniad cynnal y sgwrs hon pan fyddwch chi a’r plentyn wedi pwyllo.
  • Defnyddiwch y dechneg Cyfnod Callio yn syth ar ôl yr ymddygiad digroeso. Bydd hyn yn helpu’ch plentyn i gofio beth roedd wedi’i wneud nad oeddech chi’n ei hoffi.
  • Gofalwch ei fod yn ddiogel ac nad yw’n dychryn eich plentyn. Dydy’r dechneg Cyfnod Callio ddim yn golygu mynd â’ch plentyn i ystafell arall. Gyda phlant ifanc, gallwch ddefnyddio mat neu gadair yng nghornel yr ystafell. Gofalwch nad oes teganau, teledu na gweithgareddau eraill yn agos a fydd yn diddanu’ch plentyn
  • Pwyllwch a gwnewch eich gorau i beidio â gwylltio. Os ydych chi’n teimlo’ch hun yn dechrau cynhyrfu, anadlwch yn ddwfn i’ch helpu i ymlacio. Pan fydd eich plentyn yn y Cyfnod Callio, ceisiwch wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud fel arfer. Arhoswch yn ddigon agos i wybod a yw’ch plentyn yn gwneud unrhyw beth peryglus. Peidiwch â siarad â’ch plentyn na rhoi unrhyw sylw iddo. Os yw’ch plentyn yn ceisio gadael y man lle mae’n treulio ei Gyfnod Callio cyn diwedd y cyfnod, ewch â fe nôl yn dawel ond peidiwch â siarad ag ef gan eich bod eisoes wedi egluro pam ei fod yno. Gwnewch hyn eto os oes raid.
  • Mae’n well i’r Cyfnod Callio fod yn un gweddol fyr. Mae munud am bob blwyddyn o oedran eich plentyn yn ddigon, ac ni ddylai fod yn fwy na phum munud. Gallech osod amserydd i’ch helpu i gadw llygad ar yr amser. Gallech osod yr amserydd mewn lle y gall eich plentyn ei weld/glywed fel ei fod yn gwybod nad yw’n cael symud tan i’r larwm ganu.
  • Defnyddiwch y dechneg Cyfnod Callio yr un fath bob tro. Mae’r dechneg yn gweithio orau pan mae’ch plentyn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Mae angen i’ch plentyn wybod y bydd yna Gyfnod Callio os yw’n ymddwyn mewn ffordd annerbyniol. Mae’n syniad da i bawb sy’n agos at eich plentyn ddefnyddio’r dechneg hon yn yr un ffordd am yr un ymddygiad. Os ydych chi allan o’r tŷ ac angen defnyddio’r dechneg, gofalwch eich bod yn defnyddio man diogel ac arhoswch yn agos i’ch plentyn. Gallech ddefnyddio’r bygi neu sedd gar i fod yn ddiogel.
  • Pan ddaw’r Cyfnod Callio i ben, dyna hi wedyn. Dechreuwch gêm neu weithgarwch newydd. Rhowch ganmoliaeth am y peth da nesaf mae’ch plentyn yn ei wneud.

Beth sydd ddim yn gweithio

  • Dydy’r dechneg Cyfnod Callio ddim yn gweithio gyda phlant dan 3 oed gan nad ydyn nhw wedi datblygu digon.
  • Peidiwch byth â dal eich plentyn i lawr yn y Cyfnod Callio na defnyddio grym i wneud i’r plentyn aros yno. Pwyll piau hi a pheidiwch â gwylltio.
  • Peidiwch byth â gadael eich plentyn yn rhywle peryglus.
  • Dydy’r dechneg ddim yn gweithio os ydych chi’n ei defnyddio’n rhy aml neu am gyfnod rhy hir. Ceisiwch roi llawer o ganmoliaeth a sylw i’ch plentyn os yw’n ymddwyn yn dda. Heb ganmoliaeth a sylw am ymddygiad dda, fydd y Cyfnod Callio ddim mor ddefnyddiol.
  • Efallai na fydd y Cyfnod Callio yn addas ar gyfer rhai plant ag anghenion arbennig. Yn dibynnu ar anghenion eich plentyn, mae gwahanol weithwyr proffesiynol ar gael i siarad â chi am ffyrdd o reoli ymddygiad eich plentyn. Ewch i wefan Contact a Family am wybodaeth a ffynonellau cymorth pellach.

Os ydych chi’n rhoi sylw i’ch plentyn am ymddygiad rydych chi’n awyddus i weld mwy ohono, a’ch bod yn ei ganmol a’i annog yn gyson i ymddwyn felly, mae’n llai tebygol y byddwn angen defnyddio’r Cyfnod Callio.