Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo cyfraith newydd a fydd yn cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn rhan o ymdrechion ehangach Llywodraeth Cymru i leihau lefelau goryfed a chydnabod yr effeithiau y gall hyn eu cael ar iechyd a llesiant pobl. 

Bydd y gyfraith newydd yn mynd i'r afael â phryderon iechyd hirdymor a phenodol ynghylch effeithiau goryfed alcohol, yr amcangyfrifir ei fod yn arwain at bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn, gan gostio dros £150m i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn flynyddol. Yn 2016, bu 504 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Mae'r ddeddfwriaeth yn cefnogi strategaeth gynhwysfawr Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag yfed peryglus a niweidiol drwy ddelio ag argaeledd a fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf. Mae hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i wella a diogelu iechyd y boblogaeth. 

Yn dilyn cymeradwyaeth Aelodau'r Cynulliad, bydd y Bil yn dod yn gyfraith pan fydd yn cael Cydsyniad Brenhinol. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn bod Aelodau'r Cynulliad wedi cymeradwyo ein deddfwriaeth bwysig. 

"Y llynedd yn unig, bu farw dros 500 o bobl am resymau sy’n gysylltiedig ag alcohol a chafodd bron i 55,000 o bobl eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru am yr un rhesymau. Roedd cyfanswm y costau gofal iechyd uniongyrchol y gellir eu priodoli i alcohol tua £159m. Ond mae'r dinistr y tu ôl i'r ffigurau hyn yn fater pwysicach fyth. Dinistr i deuluoedd, yr effeithiau ar gymunedau a'r canlyniadau ar gyfer staff ein gwasanaethau iechyd a chymorth gan fod pob un ohonynt yn ymdopi ag effeithiau marwolaethau a chlefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol bob dydd. 

"Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r cyfle inni wneud newid sylweddol, i wneud rhagor i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ac, yn y pen draw, i wneud rhagor i geisio achub bywydau. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn mynd ati mewn ffordd synhwyrol a phenodol i ymdrin â phroblem real ac amlwg yng Nghymru heddiw. Caiff ei chefnogi gan ystod o gamau gweithredu ychwanegol a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi'r rheini mewn angen, gan ffurfio rhan o Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau ehangach Llywodraeth Cymru. 

"Mae’n broblem yng Nghymru bod alcohol rhad a chryf ar gael yn rhwydd, fel sy’n wir am lawer o wledydd eraill y Gorllewin. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn gwneud cyfraniad pwysig i fynd i'r afael â'r mater hwn." 

Ar ôl i'r gyfraith newydd ddod i rym, bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafbris am alcohol a gyflenwir yng Nghymru. Bydd felly yn drosedd i gyflenwi alcohol islaw isafbris penodol a fydd y cael ei gyfrifo drwy gynnwys yr isafbris uned hwnnw, cryfder yr alcohol a'i gyfaint, gan dargedu'n benodol alcohol rhad a chryf. 

Bydd y ddeddfwriaeth yn targedu swm yr alcohol sy'n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol gyda'r nod o leihau'r swm hwn a lleihau'r effeithiau ar yfwyr cymedrol. 

Bydd lefel yr isafbris uned at y diben hwn yn cael ei phennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru yn dilyn ymgynghoriad eleni.

Mae disgwyl i'r drefn newydd o osod isafbris ddod i rym yn ystod haf 2019.