Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd menywod yng Nghymru yn gallu cael mynediad i wasanaethau erthylu gartref yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd menywod a merched sydd eisiau terfynu beichiogrwydd cynnar yn cael presgripsiwn am ddwy bilsen i’w cymryd gartref yn lle mynd i ysbyty neu glinig. Mae hynny’n golygu y byddant yn osgoi cyswllt cymdeithasol a'r risg ddiangen o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Bydd y feddyginiaeth yn cael ei rhoi ar bresgripsiwn yn dilyn ymgynghoriad o bell gydag ymarferydd meddygol drwy gyswllt fideo neu gynhadledd ffôn. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething

Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng COVID-19. Mae'r mesur dros dro hwn yn sicrhau y gall menywod barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau allweddol hyn heb wynebu risg ddiangen yn ystod y cyfnod heriol hwn.