Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y cyffur ar gyfer  canser yr ofarïau, iraparib (Zejula®), ar gael bellach drwy’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn argymhelliad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a chytundeb rhwng y gwneuthurwyr, Tesaro, a GIG Cymru, bydd cleifion yng Nghymru sydd â chanser yr ofarïau yn gallu manteisio ar y driniaeth hon. 

Ers cyflwyno Cronfa Triniaethau Newydd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £80 miliwn, mae meddyginiaethau newydd megis niraparib (Zejula®) ar gael yn llawer cyflymach. Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 10 diwrnod i feddyginiaethau newydd ddod ar gael yn dilyn argymhelliad gan NICE, sydd gryn dipyn yn is na’r targed o 60 diwrnod. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Rwy’n falch iawn y bydd niraparib (Zejula®) ar gael yn awr i drin cleifion yng Nghymru sydd â chanser yr ofarïau, yn dilyn argymhelliad gan NICE a thrafodaethau â’r gwneuthurwyr.

“Dyma enghraifft arall o feddyginiaeth newydd yn dod ar gael i gleifion yn llawer cyflymach, diolch i’n buddsoddiad o £80 miliwn yn y Gronfa Triniaethau Newydd. Ers ei chyflwyno, sicrhawyd bod mwy na 100 o feddyginiaethau newydd ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn llawer cyflymach nag o’r blaen.”