Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wedi cymeradwyo cynlluniau pymtheg o awdurdodau lleol i wella darpariaeth addysg Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Cafodd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg diweddaraf ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2020 eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2016 ond gwelwyd nad oeddent yn mynd yn ddigon pell i sicrhau twf digonol mewn addysg cyfrwng Cymraeg i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Gofynnwyd i Awdurdodau Lleol ailgyflwyno eu cynlluniau felly ac mae pymtheg o'r ddau ar hugain wedi'u cymeradwyo bellach. 

Wrth gymeradwyo'r cynlluniau, dywedodd y Gweinidog:

"Mae'r gwelliannau a wnaed i'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi sicrhau sylfaen fwy cadarn i'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg sy'n adlewyrchu'n well yr uchelgais a nodwyd yn y ddogfen Cymraeg 2050 a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn gyfrwng pwysig i newid.

“Mae'n dda gen i weld bod yr awdurdodau lleol y cymeradwywyd eu cynlluniau wedi dangos ymrwymiad i gefnogi twf ym maes addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â'n huchelgais a hoffem eu diolch am eu cydweithrediad. Rydw i hefyd yn hyderus fod yr ymrwymiad a ddangoswyd gan weddill yr awdurdodau yn golygu y gallwn weithio gyda nhw i gytuno ar eu cynlluniau cyn gynted ag y bo modd.

"Bydda i nawr yn gofyn i bob awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu yn seiliedig ar y targedau o fewn eu cynllun strategol, gan gynnwys y rhai hynny sy'n aros am gymeradwyaeth. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phawb i fonitro'r cynnydd a wneir ac i roi cymorth lle bo angen."

Cyhoeddodd y Gweinidog yn ddiweddar hefyd y cafodd Aled Roberts ei benodi am gyfnod o 12 mis i ddatblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ymhellach   er mwyn sicrhau bod gennym system sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn fodd i gyflawni'r targedau uchelgeisiol a nodwyd yn y ddogfen Cymraeg 2050.