Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo £13.89 miliwn ar gyfer gwella gwasanaethau gofal brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Bydd y cyllid sylweddol hwn yn talu am wella’r seilwaith yn Ysbyty Gwynedd, er mwyn ei wneud yn haws i’r ysbyty ymdopi pan fydd y galw’n cynyddu’n sylweddol o bryd i’w gilydd. Bydd hefyd yn gwella’r amgylchedd i’r cleifion, y staff a’r ymwelwyr fel ei gilydd.
Bydd y cyllid hwn ar gyfer y cyfnod 2017-18 a 2019-20, a disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth 2017. Bydd y buddsoddiad yn darparu’r canlynol:
- Un pwynt mynediad ar gyfer yr adran
- Tair ystafell brysbennu
- Ardal dadebru gyda phedair cilfan, a chilfan ynysu ar wahân sydd â mynediad allanol
- Wyth ciwbicl a dwy ystafell driniaeth
- Wyth cadair ar gyfer mân anafiadau
- Uned asesu gan gynnwys ystafell aros ar gyfer perthnasau
- Cyfleusterau pediatreg, gan gynnwys tair ystafell asesu ac ystafelloedd aros penodol ar eu cyfer.
“Dw i’n hynod o falch ein bod wedi gallu cyhoeddi’r cyllid cyfalaf hwn ar gyfer Ysbyty Gwynedd. Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau gofal brys yn y Gogledd-orllewin.
“Yr hyn sy’n gyffrous am y datblygiad newydd yw’r bwriad i greu un pwynt mynediad ar gyfer gofal meddygol, lle bydd cleifion y mae angen gofal brys arnyn nhw yn dod i mewn i’r gwasanaeth drwy un drws er mwyn iddyn nhw gael y gofal mwyaf priodol yn seiliedig ar eu hanghenion clinigol. Bydd hynny’n caniatáu iddyn nhw gael eu trin a’u rhyddhau neu eu hatgyfeirio at wasanaethau arbenigol eraill yn yr ysbyty, neu leoliad cymunedol, cyn gynted â phosibl.
“Unwaith yn rhagor dyma Lywodraeth Cymru yn buddsoddi yn nyfodol ein GIG yng Nghymru.”
Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r £13.89m y mae ei angen i wella’r Adran Frys yn Ysbyty Gwynedd.“Mae’r adran yn rhy fach ar hyn o bryd, ac nid yw’n hollol addas ar gyfer bodloni gofynion ymarfer clinigol modern. Bydd y prosiect y pwysig hwn yn darparu safle hollol fodern ar gyfer y 52,000 o gleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob blwyddyn, a bydd yn ein helpu i weddnewid ein gwasanaethau gofal meddygol a gofal brys. “Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr ardal hon yn rhoi hwb i’n staff ymroddedig sy’n gweithio mor galed, a bydd yn ein helpu i recriwtio staff newydd."