Neidio i'r prif gynnwy

Bu’r Gweinidog Twristiaeth yn ymweld â Pentywyn i gyhoeddi bod y fenter wedi cymryd cam arall ymlaen wedi iddi dderbyn cymeradwyaeth o gyllid gwerth £3 miliwn o gronfeydd yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Prosiect Denu Twristiaeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys amgueddfa gelf fodern newydd o'r enw Yr Amgueddfa Cyflymder sydd yn adrodd hanes cysylltiad hanesyddol Pentwyn gyda Cyflymder ar y Tir; canolfan ddigwyddiadau y tu allan gyda lle ar gyfer arddangosfeydd, a hostel 42 llofft.

Mae'r datblygiadau yn Pentywyn yn rhan o raglen ehangach Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru sy'n cael ei hariannu gan yr UE, o dan arweiniad Croeso Cymru, sy'n anelu at greu 13 o gyrchfannau y mae'n rhaid eu gweld ledled Cymru.   Nod y prosiect yw mynd i'r afael â buddsoddiadau busnes a thwf mewn cyflogaeth o fewn y sector twristiaeth yn y rhanbarthau, a rhoi Cymru ar fap y byd fel cyrchfan wyliau.

Meddai yr Arglwydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth: 
“Ein nod, drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw canolbwyntio ymdrechion a buddsoddiad ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon.  Mae prosiectau fel hwn yn Pentywyn yn cymell pobl i ymweld â Chymru ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yr wyf wedi eu gweld heddiw yn dwyn ffrwyth - bydd hwn yn hwb mawr i Sir Gaerfyrddin a de-orllewin Cymru."

Meddai y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin:
"Bydd Prosiect Denu Ymwelwyr Pentywyn, o dan Gronfa Cyrchfannau Denu Twristiaeth yr UE yn cefnogi y broses o ddatblygu a hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan unigryw o safon uchel i ymwelwyr gydol y flwyddyn, a bydd yn sicrhau bod Pentywyn yn gyrchfan ar gyfer ymwelwyr dydd a dros nos 12 mis y flwyddyn.
Ers 2010, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn gweithio ar gynllun adfywio mawr i fynd i'r afael â dirywiad masnachol  canolfan arfordirol Pentywyn, a'i chyflwr presennol. Cafodd y gwaith ei gwblhau hyd yma i gynnwys cynllun Porth Pentywyn oedd yn gwella cyflwr y prif lwybrau i'r pentref, y Cynllun Gwella Eiddo Masnachol a chreu Promenâd gwerth £800 mil yn 2013.  Yn 2017, agorodd Canolfan Parry Thomas, ar gost o £1 miliwn i gynnwys 5 o unedau masnachol, toiledau cyhoeddus a chawodydd y tu allan."

Gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb economaidd ychwanegol i economi'r rhanbarth o £3.3m y flwyddyn.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn hwb arall i'r ardal gyda cyhoeddiad yn ddiweddar o gyllid ar gyfer y prosiect Llwybrau Celtaidd, gyda chefnogaeth o €1.6 miliwn o gyllid yr UE, yn anelu at annog ymwelwyr i edrych ar ardaloedd newydd yng Nghymru ac Iwerddon ar y ffordd i'w cyrchfan twristiaeth terfynol.