Neidio i'r prif gynnwy

Y Gymdeithas fydd y canolbwynt ar gyfer y sector yng Nghymru, ac mae’n bwriadu creu ei rhwydwaith actwaraidd ei hun yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Gymdeithas fydd y canolbwynt ar gyfer y sector yng Nghymru, ac mae’n bwriadu creu ei rhwydwaith actwaraidd ei hun yng Nghymru.  Mae’n rhoi dewis o weithgareddau datblygu proffesiynol, cymdeithasol a rhwydweithio ar gyfer aelodau y Sefydliad a’r Gyfadran Actwaraidd a myfyrwyr actwaraidd sy’n byw neu’n gweithio  yng Nghymru.  

Wrth siarad yn y lansiad yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Skates: 

“Mae cwmnïau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn creu swyddi sy’n galw am lefel uchel o sgiliau a’r her strwythurol allweddol yw sicrhau bod y sgiliau hyn o safon uchel ar gael yn y gweithlu.    Dyna pam y mae Cymdeithas Actwaraidd Cymru a hyfforddiant megis rhaglen Cyllid, Risg a Buddsoddi Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro mor bwysig inni.  

“Fel yr unig gorff proffesiynol siartedig sy’n benodol ar gyfer addysgu, datblygu a rheoleiddio cymdeithasau actwaraidd ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, mae’r Sefydliad a’r Gyfadran Actiwaraidd i’w chroesawu yn ein cymuned fusnes ariannol a phroffesiynol.  

“Bydd datblygu’r proffesiwn actwaraidd yng Nghymru yn codi ei broffil, yn helpu i ddenu cwmnïau ariannol mawr i Gymru a’n gwneud yn fwy cyfoethog yn y gadwyn werth. Rwyf hefyd yn falch bod y Gymdeithas yn awyddus i gefnogi ein cynlluniau i ddatblygu’r sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.” 

Meddai Gareth O’Callaghan, Llywydd Cymdeithas Actiwaraidd Cymru: 

"Mae lansiad y Gymdeithas yn digwydd yn ystod cyfnod unigryw i’r Proffesiwn Actwaraidd yma yng Nghymru gan nad dim ond cydnabod cryfder presennol y farchnad leol y mae, ond mae hefyd yn dangos i ddarpar gwsmeriaid a buddsoddwyr bod y sgiliau, yr arbenigedd a’r diwylliant y maent yn chwilio amdano eisoes yma, a’i fod yn datblygu ymhellach oherwydd dyheadau Llywodraeth Cymru a’r hyfforddiant sydd bellach yn cael ei gynnig yn ein sefydliadau addysg bellach ac uwch.  Mae cynlluniau o’r fath yn rhywbeth positif iawn i’r ardal a rydym yn edrych ymlaen at gynnig ein cefnogaeth.”  

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet amlinelliad o gynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y rhanbarth mwyaf cystadleuol ym Mhrydain, y tu allan i Lundain, ar gyfer y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a dywedodd bod nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yn y sector yn parhau i dyfu.

Ychwanegodd: 

"Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y sector yn cyflogi 160,000 o bobl yng Nghymru, sy’n golygu cynnydd o bron 20,000 ers 2011. Mae ein henw da fel lleoliad o bwys ar gyfer y gwasanaethau ariannol yn cael ei gryfhau gan ein gweithlu a’n sefydliadau academaidd dawnus.   

“Mae ein 8 prifysgol a’n 16 coleg yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o ddoniau i helpu  cwmnïau uchelgeisiol sy’n datblygu.  Mae sicrhau y llif hwn o ddoniau sy’n barod ar gyfer cynnal busnes sy’n benodol ar gyfer anghenion y sector, sy’n datblygu’n gyflym, ym maes technoleg yn benodol, yn hollbwysig er mwyn inni gyflawni ein gweledigaeth.”