Neidio i'r prif gynnwy

Gwariant y GIG fesul rhaglen ofal dyrannu ar sail y cyflwr meddygol (ICD10) y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae hyn yn cynnwys gwariant ar wasanaethau gofal sylfaenol, megis ymarferwyr cyffredinol a deintyddion, ynghyd â gwasanaethau gofal eilaidd, megis ysbytai.

Caiff ffigurau ariannol eu casglu o’r holl fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru.

Cyflwynir data gwariant ar brisiau cyfredol ac nid ydynt yn gwneud unrhyw addasiad ar gyfer chwyddiant.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm y gwariant ar gyfer yr holl gategorïau o gyllidebau rhaglenni oedd £8.3 biliwn neu £2,632 y pen o’r boblogaeth yn 2020-21.
  • Cynyddodd cyfanswm y gwariant ychydig dros £1 biliwn yn 2020-21. Roedd yn 14.6% yn uwch na gwariant yn 2019-20 a 55.8% yn uwch na degawd yn ôl.
  • Mae cyfanswm gwariant wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2009-10.Y cynnydd blynyddol diweddaraf yw'r cynnydd mwyaf a welwyd ac roedd yn fwy na dwbl y cynnydd rhwng 2018-19 a 2019-20.
  • Y categori o gyllideb rhaglen gyda’r cynnydd mwyaf oedd ‘Clefydau heintus’, a oedd wedi cynyddu £373 miliwn (306.6%) ers 2019-20 oherwydd y pandemig Coronafeirws. Yr ail gynnydd mwyaf oedd ‘Trawma ac anafiadau (gan gynnwys llosgiadau)’, a oedd wedi cynyddu £127 miliwn (23.6%).
  • Y categori sengl mwyaf o gyllideb rhaglen (ac eithrio ‘Arall’) oedd ‘Problemau iechyd meddwl’ a oedd yn cyfrif am 11.2% (£936 miliwn) o’r cyfanswm. Mae hyn wedi digwydd ers 2009-10.
  • Roedd gwariant y pen o’r boblogaeth, ar raglenni clinigol (ac eithrio ‘Arall’), yn  amrywio o £11.37 ar ‘Problemau clyw’ i £295.41 ar ‘Problemau iechyd meddwl’.

Nodiadau

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiadau fesul bwrdd iechyd, ar gael yn StatsCymru.

Coronafeirws (COVID-19)

Roedd effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar 2020-21 yn sylweddol. Mae’r effeithiau ar fynediad at wasanaethau iechyd, a darparu a chyllido’r gwasanaethau hynny, yn amlwg i’w gweld yn y data ar gyfer cyllidebau rhaglenni.

At ei gilydd, mae’r data’n cynnwys gwerth £1.17 biliwn o adnodd ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r pandemig COVID-19, er bod y swm hwnnw’n berthnasol i weithgareddau cleifion COVID a chleifion nad ydynt yn gleifion COVID.

Nodwyd mai £628 miliwn oedd cost y gweithgareddau ar gyfer cleifion y cadarnhawyd eu bod yn dioddef o COVID-19 ac am wasanaethau sy’n gysylltiedig yn benodol â rheoli’r pandemig. Roedd gweddill yr adnodd yn ariannu gweithgareddau yr oedd eu hangen oherwydd y pandemig, ond a oedd yn berthnasol i’r holl gleifion, megis staff i weithio yn lle staff sy’n gwarchod eu hunain, costau PPE, lefel uwch o weithgareddau glanhau, a llawer o rai eraill.

Mae effeithiau’r pandemig ar fanylion dadansoddiadau o gyllidebau rhaglenni hefyd yn bellgyrhaeddol ac yn gymhleth. Mae manylion rhai o’r agweddau allweddol y dylid eu hystyried i’w gweld yma:

Gwelwyd amrywio sylweddol mewn nifer o raglenni yn ystod 2020-21 o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig, yn bennaf o ganlyniad i gost uniongyrchol gofal COVID-19 a’r newidiadau mewn gweithgarwch yn sgil yr angen i reoli gwasanaethau iechyd yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cael ei amlygu’n bennaf gan y cynnydd sylweddol mewn costau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen Clefydau heintus.

Yn ogystal â nodi cost y gofal a roddwyd i’r cleifion yr oedd COVID-19 yn brif ddiagnosis iddynt (oddeutu hanner o’r holl gleifion sydd wedi derbyn gofal ar gyfer COVID-19), mae’r rhaglen hon hefyd yn cynnwys y costau ar gyfer darparu’r rhaglen Profi Olrhain Diogelu, y Ganolfan Alwadau COVID Genedlaethol, ac elfen o gapasiti ysbytai maes, ac mae’r elfennau hyn yn cyfrif am  £145 miliwn o’r cynnydd o £373 miliwn.

Cafodd y lleihad sylweddol mewn gweithgarwch effaith ar nifer o feysydd rhaglenni, gyda gweithgarwch wedi ei gynllunio megis cleifion allanol a derbyniadau dewisol yn cael ei ohirio, gan arwain at newidiadau sylweddol i raglenni megis Problemau clyw, Problemau llygaid/golwg, Anhwylderau'r system genhedlol-wrinol, Problemau'r system gyhyrsgerbydol a Phroblemau anadlol.

Ni welwyd cymaint o leihad mewn lefelau gweithgarwch mewn rhai meysydd rhaglenni oherwydd natur y gwasanaethau (Canserau a thiwmorau, Mamolaeth a Babanod newydd-anedig), a chafodd y cynnydd mawr mewn costau effaith yn rhannol oherwydd y cynnydd cyffredinol yn y gost o ddarparu gofal, a hefyd oherwydd effeithiau methodolegau costio a meysydd lle y targedwyd buddsoddiad mewn ymateb i’r pandemig.

Babanod newydd-anedig oedd un o ddwy raglen gofal lle y bu cynnydd mewn gweithgarwch o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ogystal â Chlefydau heintus. Problemau anabledd dysgu oedd y llall. Gwelodd y rhaglenni Canserau a thiwmorau, a Gwenwyniad rywfaint o gynnydd.

Nodiadau pellach

Bu’r ymateb i’r pandemig yn rhyfeddol o ran newid gwasanaethau a bod yn hyblyg, gan ddod â her newydd i’r broses gostio drwy leihau’r cysylltiadau a oedd wedi eu hen sefydlu rhwng cohortau gweithgarwch a chost. O ganlyniad, roedd modelau costio yn canolbwyntio ar weithgarwch a gyflawnwyd, gan ddefnyddio methodoleg cost gyfun yn y meysydd hynny lle nad oedd modd cysylltu gweithgarwch a chost staff yn uniongyrchol. Mae canlyniadau’r fethodoleg ddiwygiedig yn anodd eu gwahanu oddi wrth yr amrywiaeth o effeithiau eraill a welwyd yn ystod y flwyddyn, ond yn sicr bydd wedi cyfrannu at y newid mewn proffil gwario ar draws y rhaglenni. Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg, dylid bod yn ofalus wrth gymharu cymariaethau ar lefel rhaglenni â blynyddoedd blaenorol.

Mae’r  categori rhaglen ‘Arall’ yn cynnwys meysydd gwasanaeth pwysig lle nad yw sefydliadau’n gallu dyrannu costau i raglenni gyda’r methodolegau a’r ffynonellau data presennol. Er nad yw’n newydd ar gyfer 2020-21 ac na fu unrhyw newid pwysig yn y broses yn ystod y flwyddyn, mae’r categori hwn yn cael effaith fawr wrth asesu cost rhaglenni darparu gofal. Nodir 94% o Wasanaethau Meddygol Cyffredinol Gofal Sylfaenol fel rhai sy’n ymwneud â’r is-gategori ‘Arall Gwasanaethau meddygol cyffredinol’, ac mae 30% o’r gwariant Gofal Iechyd Parhaus hefyd heb ei ddyrannu i raglenni. At ei gilydd, ar ôl ychwanegu Mynediad Agored, swyddogaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd heb eu dyrannu, ac elfennau gofal eilaidd heb eu codio, mae £1.1 biliwn (13%) o wariant y tu allan i’r rhaglenni clinigol.

Roedd y broses ddyrannu gwariant ar gyfer 2020-21, unwaith yn rhagor, yn ymgorffori cyfle i bob sefydliad weithredu darpariaethau yn caniatáu i weithgarwch heb ei godio’n glinigol gael ei ddynodi fel rhan o raglenni, lle cafwyd lefel uchel o hyder o ddangosyddion data y gellid gwneud hynny. Fe wnaeth pob un o’r byrddau iechyd lleol, ac eithrio Bwrdd Iechyd Prifysgol Powys, fabwysiadu’r dull gweithredu hwn yn 2020-21.

Mae gwybodaeth am ansawdd ar gael yn natganiad ystadegol 2018-19.

Nid oes datganiad ystadegol llawn wedi’i gyhoeddi ar gyfer 2020-21.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.