Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad sy'n rhoi manylion am y gost o redeg gwasanaethau awdurdodau lleol, a'u gwariant, fel prynu, adeiladu neu wella asedau ffisegol ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm crynswth gwariant refeniw cyllidebol awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2024-25 yw £10.9 biliwn, sy’n gynnydd o 5.4% ar y flwyddyn flaenorol. 
  • Bu cynnydd o 5.1%, neu £467 miliwn, yn y gwariant wedi'u cyllidebu gan y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistref sirol, tra bu cynnydd o 8.6% yng ngwariant yr heddlu ar gyfartaledd. Bu cynnydd cyfartalog o 7.8% yng ngwariant y gwasanaethau tân a gostyngiad o 2.1% yng ngwariant awdurdodau’r parciau cenedlaethol.
  • Yn 2024-25, yn ôl awdurdodau lleol Cymru, rhagwelir mai cyfanswm y gwariant cyfalaf, gan gynnwys awdurdodau’r heddlu, yr awdurdodau tân ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol, yw £2,436 miliwn. Mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli gostyngiad flwyddyn ar flwyddyn o £154 miliwn neu 6.7%.

Adroddiadau

Cyllideb refeniw awdurdodau lleol a rhagolygon gwariant cyfalaf: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 403 KB

PDF
Saesneg yn unig
403 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.