Mae'r adroddiad sy'n rhoi manylion am y gost o redeg gwasanaethau awdurdodau lleol, a'u gwariant, fel prynu, adeiladu neu wella asedau ffisegol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyllideb refeniw awdurdodau lleol a rhagolygon gwariant cyfalaf
Prif bwyntiau
Cyfanswm crynswth gwariant refeniw cyllidebol awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2021-22 yw £9.0 biliwn, sy’n gynnydd o 4.1% ar y flwyddyn flaenorol.
Bu cynnydd o 3.9%, neu £300 miliwn, yn y gwariant wedi'u cyllidebu gan y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistref sirol, tra bu cynnydd o 6.1% yng ngwariant yr heddlu ar gyfartaledd. Bu cynnydd cyfartalog o 3.1% yng ngwariant y gwasanaethau tân cynnydd o 1.6% yng ngwariant awdurdodau'r parciau cenedlaethol.
Yn 2021-22, yn ôl awdurdodau lleol Cymru, rhagwelir mai cyfanswm y gwariant cyfalaf, gan gynnwys awdurdodau’r heddlu, yr awdurdodau tân ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol, yw £1,806 miliwn. Mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli gostyngiad flwyddyn ar flwyddyn o £79 miliwn neu 4.6%.
Adroddiadau
Cyllideb refeniw awdurdodau lleol a rhagolygon gwariant cyfalaf, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 509 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.