Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, Gyllideb newydd i Gymru gan adlewyrchu pwerau trethu a benthyca newydd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gyllideb hon yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith ddatganoli Cymru wrth i’r wlad, o fis Ebrill 2018, ddod yn gyfrifol am godi cyfran o'i refeniw ei hun i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd yn gwneud hynny drwy ddwy dreth newydd Cymru, sef y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. 

Mae Cyllideb ddrafft amlinellol 2018-19 yn cael ei chyflwyno mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol parhaus. Dyma un o’r cyfnodau hiraf o gyni cyson a diangen ar gof, ac mae amwysedd o hyd ynghylch dyfodol ffrydiau cyllido Ewropeaidd pwysig. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau refeniw dwy flynedd ar gyfer 2018-19 a 2019-20 er mwyn ceisio darparu sicrwydd a sefydlogrwydd i lywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd wrth iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae cynlluniau cyfalaf tair blynedd, gwerth bron £5bn, wedi'u cyhoeddi sy'n rhoi hwb i fuddsoddiad mewn seilwaith ledled Cymru. 

Mae'r cynlluniau cyfalaf yn defnyddio £375m o gyllid benthyg dros dair blynedd i fuddsoddi'n strategol ar raddfa fawr. Caiff y gofynion benthyca eu hadolygu bob blwyddyn.

Mae'r Gyllideb ddrafft yn cynnwys y cytundeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar â Phlaid Cymru a fydd yn darparu sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus Cymru ac yn caniatáu i'r gyllideb £15 biliwn fynd rhagddi. Mae cynlluniau refeniw Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • £230m yn ychwanegol yn 2018-19 a £220m yn ychwanegol yn 2019-20 i GIG Cymru 
  • Diogelu gofal cymdeithasol ac addysg 
  • Dim toriadau i'r grant Cefnogi Pobl – bydd £10m yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu ym mhob blwyddyn i gadw lefelau 2017-18
  • Buddsoddi £70m dros ddwy flynedd yn y cynnig gofal plant 
  • £10m yn ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd bob blwyddyn. 

Mae'r cynlluniau cyfalaf dros y tair blynedd yn cynnwys: 

  • Rhyddhau £340m fel rhan o'n buddsoddiad o £1.4bn tuag at yr ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy 
  • £50 miliwn i ddatblygu cyfleusterau parcio a theithio a gorsaf drenau newydd yn Llan-wern 
  • £40m yn ychwanegol i gyflymu ein rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif 
  • £90m yn ychwanegol ar gyfer rhaglen gyfalaf GIG Cymru 
  • Bydd cyllid cyfalaf yn cael ei glustnodi mewn cronfeydd i brynu cerbydau newydd ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau, gan ddibynnu ar ganlyniad y broses gaffael. 

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd heddiw yn cyhoeddi cyfraddau a bandiau graddedig newydd ar gyfer y dreth trafodiadau tir sy'n disodli treth dir y dreth stamp, a'r dreth gwarediadau tirlenwi sy'n disodli'r dreth dirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen. 

O ganlyniad i'r cyfraddau preswyl newydd ar gyfer y dreth trafodiadau tir, ni fydd y prynwr tro cyntaf cyfartalog yn talu unrhyw dreth o gwbl a bydd pob un sy'n prynu eiddo preswyl am gost hyd at £400,000 yn talu'r un faint o dreth neu lai na'r hyn a delir ar hyn o bryd. 

Bydd cyfraddau safonol ac is y dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau'r un fath â chyfraddau'r dreth dirlenwi am y ddwy flynedd gyntaf, ond bydd cyfradd newydd ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi yn cael ei chyflwyno a'i phennu ar 150% o'r gyfradd safonol. 

Dywedodd yr Athro Drakeford: 

"Dyma Gyllideb newydd i Gymru ac mae'n nodi carreg filltir bwysig arall yn ein taith ddatganoli wrth inni baratoi i gymryd y cyfrifoldeb dros godi trethi a benthyca o fis Ebrill ymlaen. 

"Yn hytrach na nodi ein blaenoriaethau gwario refeniw a chyfalaf yn unig, y Gyllideb ddrafft hon yw'r gyntaf i amlinellu'r penderfyniadau rydyn ni wedi'u gwneud i godi cyfran o'n refeniw ein hunain i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. 

"Wrth ddefnyddio'r pwerau newydd hyn, rydym wedi gallu cyflwyno cynlluniau treth blaengar ac arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn newid ymddygiadau ac yn sicrhau gwelliannau i'n holl gymunedau. 

"Y llynedd, yn ystod yr adegau mwyaf anodd, fe wnaethom ni gyflwyno cyllideb i ddarparu sefydlogrwydd ac uchelgais i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion Cymru. Erbyn heddiw, mae'r cyd-destun economaidd wedi cymylu ymhellach. 

"Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i barhau â'i pholisi cyni diffygiol yn golygu ein bod yn parhau i wynebu toriadau i'n cyllideb. Erbyn diwedd y ddegawd, bydd wedi cael ei thorri 7% mewn termau real ers 2010 – sef £1.2bn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol. 

"Ar ben hynny, mae gwerth £3.5bn o doriadau heb eu dyrannu gan Lywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus ar gyfer 2019-20 yn parhau i fod yn gysgod dros ein cynlluniau at y dyfodol. Gallai hyn olygu toriad pellach o hyd at £175m i gyllideb Cymru gan ddibynnu ymhle y bydd y toriadau’n digwydd. 

"Er gwaethaf hyn, rydym wedi cyhoeddi cynlluniau refeniw dwy flynedd i ddarparu sefydlogrwydd i'r gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ar gyfer y dyfodol, a chynigion cyfalaf tair blynedd uchelgeisiol i ddatblygu Cymru fwy ffyniannus a diogel.

"Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi'r dyraniadau portffolio lefel uchel a bydd y cynlluniau gwario manwl yn cael eu cyhoeddi ymhen tair wythnos. 

“Rydyn ni wedi gweithio'n gaed i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr rhag effeithiau gwaethaf cyni, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae ein cynlluniau gwario, ynghyd â'n cynlluniau trethi blaengar, yn dangos ein hymrwymiad i Symud Cymru Ymlaen a sicrhau ffyniant i bawb yn ystod yr adegau anodd hyn." 

Bydd rhestr fer a fydd yn cynnwys pedwar syniad am dreth newydd i Gymru, yn cael ei chyhoeddi gyda'r Gyllideb ddrafft amlinellol heddiw. Bydd pob un o'r syniadau hyn yn cael eu datblygu ymhellach dros y flwyddyn a bydd un syniad am dreth newydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU yn 2018 i brofi pwerau Deddf Cymru.

Y pedwar syniad ar y rhestr fer yw: 

  • Ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol 
  • Treth ar dir gwag 
  • Treth ar ddeunydd plastig untro 
  • Treth dwristiaeth 

Cyn cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, bu’r Ysgrifennydd Cyllid yn ymweld â datblygiad tai Glan Llyn yn Llan-wern, Casnewydd i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’r cam diweddaraf dan arweiniad Grŵp Pobl wedi cael dros £850,000 drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys 27 o unedau i ddarparu tai fforddiadwy yn y ddinas.

Dywedodd Kathryn Edwards, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Grŵp Pobl:

“Mae cyllid grant Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi i ddarparu 27 o gartrefi newydd i’w rhentu’n gymdeithasol yng Nglan Llyn yng Nghasnewydd. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd yn helpu Grŵp Pobl i ddarparu 3000 o dai fforddiadwy newydd yng Nghymru, i’w rhentu neu i’w prynu, dros y 5 mlynedd nesaf.”