Mae'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol, wrth wraidd Cyllideb ddrafft 2024-2025, meddai'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans heddiw.
Bydd £450 miliwn ychwanegol ar gael i'r GIG a bydd setliad craidd llywodraeth leol yn cynyddu 3.1%. Ond hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, mae byrddau iechyd a chynghorau yn wynebu blwyddyn anodd iawn i ddod.
Wrth iddi gyhoeddi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025, dywedodd y Gweinidog Cyllid fod Gweinidogion Cymru, wrth ddatblygu'r Gyllideb ddrafft, wedi wynebu'r "dewisiadau mwyaf cyfyng a phoenus o ran cyllideb Cymru ers dechrau datganoli".
O ganlyniad i chwyddiant sydd wedi aros yn uchel, mae cyfanswm cyllideb Cymru yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Yn ogystal, nid yw'r setliad, sy'n dod yn bennaf gan Lywodraeth y DU ar ffurf grant bloc, yn ddigonol i ymateb i'r pwysau eithriadol ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:
"Ry'n ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ailddylunio ein cynlluniau gwario yn sylweddol iawn i dargedu cyllid at y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.
"Ar ôl tair blynedd ar ddeg o gyni, cytundeb Brexit diffygiol a'r argyfwng costau byw presennol, dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf i Gymru ei hwynebu ers dechrau datganoli. Dyw ein setliad ariannu, sy'n dod yn bennaf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ddim yn ddigon yn sgil y pwysau eithriadol sy'n wynebu Cymru.
"Ry'n ni wedi gorfod gwneud y dewisiadau mwyaf cyfyng a phoenus o ran y gyllideb ers dechrau datganoli. Ry'n ni wedi ail-lunio cynlluniau gwario adrannau fel y gallwn fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd a diogelu cyllid craidd llywodraeth leol ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau eraill ry'n ni'n dibynnu arnyn nhw bob dydd.
"Dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi rhoi i Gymru setliad ariannu sy'n cydnabod effaith chwyddiant, ond ry'n ni wedi gwneud newidiadau i'n cynlluniau gwario ac wedi targedu buddsoddiad tuag at y gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf inni gyd."
Daw'r cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG yn 2024-2025 ar ben y £425 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Hydref ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, ac a gafodd ei wneud yn rhan reolaidd o'r gyllideb ar gyfer y dyfodol. Golyga hyn y bydd maes iechyd yn cael mwy na 4% o gynnydd ar gyfer 2024-25, o'i gymharu â llai nag 1% yn Lloegr.
Bydd setliad craidd llywodraeth leol, sydd, ynghyd â'r dreth gyngor leol, yn ariannu gwasanaethau fel ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, casglu biniau a chyfleusterau hamdden lleol, hefyd yn cael ei ddiogelu, gan gynyddu 3.1%.
Mae'r Gyllideb ddrafft wedi'i hail-lunio yn unol ag egwyddorion a gwerthoedd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys diogelu gwasanaethau rheng flaen craidd, ble bynnag y bo modd; sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf; a blaenoriaethu swyddi ble bynnag y bo modd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth i bobl sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys drwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a phecyn cymorth gwerth £384 miliwn i dalwyr ardrethi annomestig, sy'n cynnwys rhyddhad i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y bumed flwyddyn yn olynol.
Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol, sy'n gronfa newydd gwerth £20 miliwn, yn cael ei chyflwyno yn gynnar yn 2024-2025 i fusnesau.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid hefyd y bydd y Llywodraeth yn ystyried yn ofalus a oes angen codi taliadau am rai gwasanaethau – fel gofal deintyddol o dan y GIG, ffioedd dysgu prifysgolion a gofal cartref – er mwyn helpu i godi arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac addysg uwch, yn sgil sefyllfa bresennol y gyllideb.