Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, fod £4m o gyllid yr UE wedi cael ei roi ar gyfer y Labordy Arloesedd newydd sy’n werth £5.6m. Bydd y cyfleuster hwn yn cael ei ddatblygu fel rhan o Ysgol Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r dirwedd gyfreithiol yng Nghymru yn newid. Gyda thechnoleg ddigidol yn dod yn fwyfwy blaengar, mae cyfle iddi gael ei defnyddio er budd pawb ym maes y gyfraith. Diolch i’r dechnoleg ddiweddaraf hon, bydd yn haws i bobl gael mynediad at gyngor cyfreithiol a bydd hefyd yn helpu i greu cyfleoedd busnes yn sector technoleg y gyfraith yng Nghymru.

Bydd y Labordy Arloesedd yn dod yn ganolfan ymchwil ac arloesi unigryw a fydd yn meithrin partneriaethau presennol a newydd Prifysgol Abertawe â chwmnïau cyfreithiol rhyngwladol, asiantaethau diogelwch, cyrff proffesiynol a masnach, a chwmnïau technoleg a chyfryngau cymdeithasol.

Bydd y Labordy, y mae disgwyl iddo agor yr haf nesaf, yn cefnogi ymchwil ac yn helpu i ddatblygu technoleg y gyfraith, gan arwain at fynediad cyffredinol at gyfiawnder. Bydd academyddion ac arbenigwyr o’r diwydiant hefyd yn edrych am ffyrdd newydd o leihau’r risg o weld data yn cael eu hacio, a defnyddio technoleg fel Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wrthsefyll bygythiadau seiber.

Bydd tua 3500 metr sgwâr o le i’w ddefnyddio fel swyddfeydd, ac ar gyfer cynnal cyfarfodydd ac addysgu ar gael yn Ysgol y Gyfraith ar ei newydd wedd. Mae’r ysgol wedi cael ei hymestyn, ac mae wedi’i lleoli ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.

Dywedodd Mr Miles, sy’n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:

Roedd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder, a gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf, yn nodi cyfleoedd i gryfhau’r sector cyfreithiol yng Nghymru. Mae gallu dod o hyd i’r gyfraith a’i deall yn rhesymol hawdd wrth galon cenedl a lywodraethir gan reolaeth y gyfraith.

Y Labordy Arloesedd hwn yw’r union beth sydd ei angen arnon ni ar hyn o bryd. Mae’n darparu’r cyfleusterau ar gyfer darganfod y potensial sydd gan dechnolegau sy’n dechrau cael eu cyflwyno, er enghraifft technegau darllen gan beiriannau a deallusrwydd artiffisial, i’w gynnig. Mae hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, cyrff proffesiynol a’r byd academaidd yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu a hyrwyddo gallu technolegol y sector cyfreithiol.

Rwyf wrth fy modd bod Cymru yn arwain y ffordd gyda’r ymchwil arloesol hwn. Mae cronfeydd yr UE yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi, cynyddu cynhyrchiant, a datblygu cyfleoedd cyflogaeth a busnes. Edrychaf ymlaen at weld pa mor bell y gall technoleg y gyfraith fynd i helpu i hyrwyddo mynediad at gyfiawnder i ddinasyddion Cymru.

Dywedodd yr Athro Elwen Evans CF, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton:

Mae hyn yn newyddion gwych i Ysgol y Gyfraith ac i Gymru. Mae’n gymeradwyaeth bwysig i’n huchelgais i ysgogi arloesi mewn gwasanaethau cyfreithiol a bydd yn ein galluogi i weithio ar gyfradd ehangach a chael mwy o effaith eto. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael y buddsoddiad hwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dywedodd Dr Chris Marshall, Cyfarwyddwr yr Economi Wybodaeth yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton:

Bydd helpu cwmnïau cyfreithiol i arloesi pan rydyn ni ar y groesffordd hon, lle rydyn ni’n gweld llwybrau’r gyfraith a thechnoleg yn dod ynghyd, yn rhan greiddiol o waith y Labordy Arloesedd. Gallai hynny fod drwy ddefnyddio data yn well, gwella dyluniad prosesau cyfreithiol, neu gymhwyso dysgu gan beiriannau i faterion cyfreithiol.

Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gydag awdurdodau sy’n gorfodi’r gyfraith, asiantaethau diogelwch a chwmnïau technoleg i ddeall yn well sut mae terfysgwyr a throseddwyr yn manteisio ar blatfformau digidol a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg. Bydd hyn yn cynnig cyfle hefyd i ddatblygu mesurau diogelu y bydd modd eu cynnwys wrth ddylunio technoleg.