Mae sector ynni morol Cymru wedi cael hwb pellach wrth i £1.2m o gyllid yr UE gael ei fuddsoddi i greu ardal i ddatblygwyr brofi eu technoleg yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.
Nod y buddsoddiad yw denu mwy o gwmnïau i Gymru drwy leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â datblygu technoleg forol, a chefnogi datblygwyr, busnesau yn y gadwyn gyflenwi, a phrifysgolion sy'n cynnal prosiectau ynni morol.
Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:
“Rydyn ni'n awyddus i Gymru fod ar y blaen gydag ymchwil ac arloesi ym maes ynni'r môr, felly rwy’n falch o allu cyhoeddi y bydd dros £1m o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i greu'r ardal brofi hon.
“Mae'n amser cyffrous iawn i'r sector ynni morol yng Nghymru ac mae'r fenter hon yn gam mawr arall ymlaen yn y gwaith o ddatblygu diwydiant ffyniannus yn Sir Benfro ac yng Nghymru. Rydyn ni wedi ymroi i ddenu datblygwyr o bob rhan o'r byd i weithio yn nyfroedd Cymru.”
Bydd ardal brofi Aberdaugleddau yn cynnig cyfle i'r sector ynni morol yng Nghymru arddangos ei dechnoleg. Mae'n rhan o gynllun morol £76m ehangach Doc Penfro, sy'n un o'r 11 o brosiectau sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Bydd y cynllun yn helpu i ddatblygu Sir Benfro yn ganolfan o fri rhyngwladol ar gyfer datblygu, llunio, profi a defnyddio technoleg ynni morol.
Mae'r buddsoddiad yn yr ardal brofi hon yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf bod £4.5m o gyllid yr UE a Llywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu cynllun Parth Arddangos Morlais ar gyfer prosiectau ynni llanw oddi ar arfordir Ynys Môn.
Er mwyn adeiladu ar y buddsoddiadau hyn, bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a'r sector ynni morol yng Nghymru yn mynd ati i werthu Cymru i'r byd yn nigwyddiad Ynni Morol Ewrop a gynhelir yn Nantes yn Ffrainc, lle bydd arweinwyr y sector morol o bob rhan o'r byd yn ymgasglu.
Dywedodd David Jones, cyfarwyddwr prosiect Ynni Môr Cymru:
“Ar ôl trafod y syniad o sefydlu ardal ar gyfer profi technoleg forol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, braf yw gallu dweud bod y cyllid a'r cymorth bellach wedi eu sicrhau ar gyfer gwireddu'r uchelgais hon.
“Mae ynni'r môr eisoes wedi rhoi hwb i'r economi ymylol yng Nghymru, drwy gefnogi clystyrau lleol sy'n ffurfio cadwyni cyflenwi a mentrau arallgyfeirio. Rydyn ni'n rhagweld y bydd yr ardal brofi hon yn helpu'r sector i ostwng ei gostau ymhellach.”