Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dros £2m o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i wella cyfleusterau a chreu safle newydd i fodloni'r galw gan fusnesau bach a chanolig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid hwn yn cefnogi'r gwaith o ailddatblygu'r Ganolfan Arloesi ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr a'r gwaith o adeiladu canolfan fenter newydd ar Ystad Ddiwydiannol Village Farm. 

Bydd y prosiect yn creu safle dros 2,500m2 ar gyfer busnesau a bydd yn gartref i tua 35 o fusnesau newydd ac ifanc a thros 100 o swyddi. Mae'n adeiladu ar lwyddiant Pen-y-bont ar Ogwr o ran cynyddu nifer y busnesau newydd yno dros y blynyddoedd diwethaf. 

Tua £3.5 miliwn fydd cost y prosiect cyfan, gyda £2.3m yn cael ei roi gan yr UE a £1.2 miliwn yn cael ei roi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: 

"Dyma newyddion ardderchog i'r gymuned fusnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y buddsoddiad yn arwain at y seilwaith o ansawdd sydd ei angen ar fusnesau newydd i ffynnu. Ynghyd â'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda busnesau i ddeall yr heriau sy'n eu hwynebu a'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw i dyfu ac arloesi, bydd yn creu mwy o swyddi ac yn datblygu ffyniant yr ardal." 

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: 

"Bydd y ganolfan fenter fodern o fudd mawr i fusnesau bach a chanolig drwy helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am safleoedd newydd a chryfhau'r economi leol."