Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglenni i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant a hybu sgiliau yn derbyn cyllid ychwanegol yn y Gyllideb derfynol sy’n cael ei gosod heddiw, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd £12m ychwanegol yn ariannu mesurau i greu prentisiaethau ar draws Cymru a bydd £2m arall yn helpu rhieni i dalu costau anfon eu plant i'r ysgol ac yn ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl lwyddiannus dros wyliau'r haf. 

Bydd y Gyllideb derfynol hefyd yn cynnwys pecyn o gynigion refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn 2019-20 a £26m i gynyddu cymorth i fanwerthwyr stryd fawr a busnesau eraill.

Mae Cyllideb derfynol 2019-20 yn cynnwys:

  • £6.8m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i gefnogi ymrwymiad blaenllaw Llywodraeth Cymru i gynnig 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn
  • £4.771m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i gefnogi tâl addysg bellach
  • £2m arall i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant drwy:
    • o£1.6m ychwanegol i ymestyn ymhellach y cynllun Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, sy'n helpu rhieni i dalu costau cyffredinol anfon eu plant i'r ysgol. Mae hyn ar ben y cyllid a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ddrafft i ddyblu'r cynllun.
    • o£0.4m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl dros wyliau'r haf, sy'n rhoi bwyd a chyfleoedd dysgu i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Mae prentisiaethau yn hanfodol er mwyn i bobl gael hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel a rhoi cyfleoedd i fusnesau a'r economi ffynnu.

“Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae'r cynllun Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad a'r rhaglen Bwyd a Hwyl yn bwysig iawn i blant sydd angen ein cymorth y mwyaf.”

Mae'r dyraniadau cyllid yma ar ben y pecyn o fesurau cyllido ychwanegol i lywodraeth leol, gwerth £141.5m dros dair blynedd (2018-2021) - a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn gwerth £26m yn 2019-20 i wella ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr presennol.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid:

“Datblygwyd Cyllideb derfynol 2019-20 mewn cyfnod o gyni di-baid ac yng nghysgod yr ansicrwydd parhaus sy'n gysylltiedig â Brexit.

“Pan gyhoeddwyd ein cynigion drafft, gwnaethom ymrwymiad i wneud llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cyllid ychwanegol yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud dyraniadau pellach a buddsoddi yn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.”

Mae'r Gyllideb derfynol yn nodi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru gyfer 2019-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf hyd at 2021.

Mae holl ddogfennau'r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru

Bydd trafodaeth ar Gyllideb derfynol 2019-20 yn cael ei chynnal ar 15 Ionawr 2019.