Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £4.4 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cyllid newydd, sydd wedi'i gynnwys yng Nghyllideb Derfynol 2025 i 2026 - ar ben y cynnydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft - yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i'r sector ar gyllideb refeniw y llynedd.

Mae hefyd yn ychwanegol at £73.8 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf a fydd yn helpu i ddiogelu a gwarchod asedau diwylliannol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan wella profiadau a mynediad ymwelwyr. Mae hyn yn gynnydd o £18.4 milwn ar lefelau 2024 i 2025.

Meddai Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

Mae'r buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru.

Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sy'n wynebu llawer o'n hamgueddfeydd, theatrau a mannau diwylliannol ac mae'r gyllideb hon yn gam sylweddol ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd, ac yn gyfle go iawn i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy, a pharhau â hynny yn y dyfodol.

Diolch i awydd gwirioneddol o bob rhan o Gabinet Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ein gallu, rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cymryd y cam arwyddocaol hwn i ddarparu cefnogaeth i'n cyrff celfyddydol, cyhoeddi a diwylliannol, sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint.

Mae ein gwariant cyfalaf i helpu i ddiogelu ac amddiffyn asedau diwylliannol a threftadaeth Cymru yn y dyfodol bellach dros dair gwaith yr hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cefnogi prosiectau fel ailddatblygu Castell Caerffili, a gwaith ailwampio helaeth yn Theatr Clwyd ac Amgueddfa Wrecsam.

Bydd y pecyn ariannu cynhwysfawr hwn yn helpu i ddiogelu a gwarchod diwylliant, celfyddydau, byd cyhoeddi a chwaraeon llawr gwlad Cymru, gan gefnogi eu rôl hanfodol mewn addysg, ymgysylltu cymunedol a thwristiaeth.

Mae'r ymrwymiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar y £1 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn a ddarparwyd i'r sector ar ddiwedd 2024 i 2025, a gefnogodd 60 o sefydliadau diwylliannol ledled Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â'r £5 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Medi.