Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi £195,000 o gymorth ychwanegol ar gyfer asiantaethau Gofal & Thrwsio ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Gofal & Thrwsio Cymru:“Mae nifer o asiantaethau Gofal & Thrwsio yn cydweithio â'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i gynnal cynllun peilot ar wrthsefyll pwysau'r gaeaf. Yn sgil y peilot hwnnw bydd gweithiwr achos o Gofal & Thrwsio yn ymweld â chleifion mewn wardiau ysbytai i gael gwybod pa gleifion allai elwa ar gael addasiadau yn y cartref, a dod o hyd i atebion addas yn gyflym.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn sicrhau bod asiantaethau Gofal & Thrwsio yn cefnogi pobl sy'n gadael yr ysbyty fel eu bod yn dychwelyd i gartref diogel. Mae asiantaethau Gofal & Thrwsio'n gwneud mân addasiadau i gartrefi pobl sy'n gallu helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau ein hysbytai.
“Gallai'r addasiadau hynny gynnwys lefelu a llyfnhau lloriau concrit neu atgyweirio grisiau, gosod canllawiau neu estyniadau ffôn – beth bynnag a allai helpu i atal cwympiadau a sicrhau bod pobl yn gallu byw yn annibynnol eu cartrefi eu hunain.
“Mae'r tai iawn yn gallu helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn helpu i sicrhau'r amgylchedd iawn i bobl adael yr ysbyty – gan leihau'r oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Gall hynny yn ei dro ryddhau'r pwysau ar adrannau brys, sy'n arbennig o bwysig yn ystod misoedd y gaeaf er mwyn lleihau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd. Ar yr un pryd, mae hefyd yn helpu pobl i fyw yn hirach yn eu cartrefi eu hunain.”
“Rydyn ni'n hynod o falch am y cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyllid hwnnw’n ein helpu ni i wneud gwelliannau ac addasiadau i gartrefi er mwyn helpu pobl hŷn i gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynt. Mae ein gwasanaeth Adre o'r Ysbyty yn rhoi cyfle inni siarad â chleifion a staff ysbytai yn gynnar ynghylch a yw cartref y claf yn ddiogel, yn gynnes ac yn hygyrch, ac ynghylch y math o welliannau ac addasiadau sydd eu hangen. Mae hynny'n caniatáu inni gynllunio'r hyn sydd ei angen yn gynt fel nad yw dychwelyd o'r ysbyty'n cael ei oedi oherwydd bod y cartref yn anaddas.“Gallech chi ddweud mai ni yw meddyg yr eiddo ar ran y Gwasanaeth Iechyd. Cyn gynted ag y bydd cleifion yn feddygol iach i adael yr ysbyty, rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod y cartref y maen nhw'n mynd iddo hefyd yn lle 'iach' iddyn nhw fyw ynddo. Yn ogystal, rydyn ni'n cynnig cymorth ychwanegol pan fyddan nhw gartref, sy'n golygu ei bod yn llai tebyg y byddan nhw'n gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty.”