Cyllid o £450,000 i gefnogi busnesau Cymru sydd am dargedu’r sector niwclear, sy’n werth biliynau o bunnoedd
Mae’r rhaglen yn galluogi cwmnïau i fesur eu gweithrediadau yn erbyn y safonau sy’n ofynnol i gyflenwi’r diwydiant niwclear – ym maes adeiladau newydd, gweithrediadau a datgomisiynu – a chymryd y camau angenrheidiol i gau unrhyw fylchau.
Mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd £930 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn adweithyddion niwclear newydd a £250 biliwn mewn datgomisiynu adweithyddion niwclear presennol dros yr ugain mlynedd nesaf ledled y byd.
Meddai Ken Skates:
“Bydd y sector niwclear yn darparu pob math o gyfleoedd busnes dros yr ugain mlynedd nesaf, ac rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod busnesau yng Nghymru mewn sefyllfa i wneud cais ac ennill cyfran o’r busnes hwn.
“Yng Nghymru, mae ymchwil wedi nodi bod gan fusnesau Cymru y potensial, gyda’r achrediadau a’r systemau sefydliadol perthnasol, i gystadlu am gyfran sylweddol o’r contractau sector niwclear yng Nghymru a thu hwnt, ac mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gefnogi ymdrechion busnesau i sicrhau’r gyfran fwyaf posibl er lles economi Cymru.”
Meddai Helen Arthur, rheolwr rhaglen F4N yn y Nuclear Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC):
"Mae’r 20 o gwmnïau o Gymru sy’n gweithio ar hyn o bryd trwy raglen F4N wedi tynnu sylw at y nifer uchel o weithgynhyrchwyr o safon uchel yng Nghymru a allai ateb gofynion y diwydiant niwclear. Rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siwr bod mwy o weithgynhyrchwyr o Gymru yn gallu manteisio ar y cymorth sy’n cael ei gynnig gennym, ac i fod yn barod i ennill gwaith yn y gadwyn gyflenwi niwclear yn y wlad hon ac yn fyd-eang.”
Mae F4N wedi’i datblygu gan y Nuclear Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC), sy’n rhan o Brifysgol Sheffield, gyda chymorth ei phartneriaid haen uchaf, gan gynnwys datblygwyr adeiladau newydd a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, sy’n defnyddio’r rhaglen i nodi cwmnïau posibl ar gyfer eu cadwyni cyflenwi.
Nid oes amserlen benodol ar gyfer asesu busnesau i ennill statws Fit For Nuclear, ond mae’r rhan fwyaf yn llwyddo i ennill y statws o fewn 12-18 mis.
Mae datganiadau o ddiddordeb bellach yn cael eu ceisio gan fusnesau yng Nghymru sydd am gymryd rhan yn y rhaglen F4N. Rhaid bod gan gwmnïau hygyrch gyfleuster gweithgynhyrchu yng Nghymru a throsiant o £1.6 miliwn neu fwy a rhaid iddynt fod yn cyflogi o leiaf 10 o bobl.
Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn amrywio o weithgynhyrchwyr contract heb unrhyw brofiad niwclear – sy’n ceisio camu i’r sector am y tro cyntaf – i gyflenwyr profiadol sydd am feincnodi eu safle a sbarduno rhagoriaeth fusnes.
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru datganiad o ddiddordeb erbyn 1 Awst 2017, dylai busnesau anfon e-bost i: DigwyddiadauNiwclear.NuclearEvents@wales.gsi.gov.uk neu cliciwch https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/newyddion/rhaglen-fit-4-nuclear-â-cymorth-ariannol-ar-gael (dolen allanol).