Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Carl Sargeant fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £149,530 i Ganolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi'r prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae tai cydweithredol yn fodel lle mae grwpiau o bobl yn berchen ar ac yn rheoli eu llety ar y cyd, yn aml gyda chefnogaeth landlord cymdeithasol cofrestredig. Mae'r model hwn yn cynnig tai fforddiadwy mewn hinsawdd lle mae morgeisi'n anodd eu cael a phrisiau tai'n rhy uchel i nifer o brynwyr. Mae'n ddewis arall o dai ac yn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. 

Bydd y cyllid hwn yn helpu i symud y prosiect yn ei flaen. Mae eisoes wedi helpu i ddarparu 99 o gartrefi ar draws Cymru ac yn ceisio sicrhau 75 arall drwy ddatblygu arbenigedd mewn modelau cydweithredol gwahanol a darparu cyngor i ddatblygwyr a grwpiau cydweithredol. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i Ganolfan Cydweithredol Cymru adeiladu ar y cynnydd y maen nhw eisoes wedi'i wneud o ran cefnogi datblygiad tai cydweithredol yng Nghymru. Mae tai cydweithredol yn un o sawl model arloesol y mae Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi ar gyfer darparu tai er mwyn helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru yn ystod tymor y llywodraeth hon." 

Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:

"Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn hollbwysig i adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed eisoes o ran tai cydweithredol yng Nghymru. Mae'n glir bod pobl a chymunedau ar draws Cymru yn frwdfrydig iawn ynghylch tai cydweithredol.

"Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn defnyddio'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i dalu arbenigwyr i weithio gyda phrosiectau tai cydweithredol lleol a'u helpu gyda pha bynnag gymorth sydd eu hangen arnyn nhw."

Yn ystod y Gynhadledd TAI flynyddol yng Nghaerdydd yr wythnos hon, mae Canolfan Cydweithredol Cymru hefyd wedi lansio Pecyn Cymorth Treialu Tai Cydweithredol. Datblygwyd y pecyn hwn gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ei nod yw helpu grwpiau cymunedol, cymdeithasau tai, cwmnïau cydweithredol, awdurdodau lleol ac eraill wrth iddynt ddechrau ystyried sut i ddatblygu cartrefi cydweithredol a chartrefi a arweinir gan y gymuned. Gallwch lawrlwytho'r pecyn hwn drwy fynd i: http://wales.coop/a-guide-to-developing-housing-co-ops/ (dolen allanol).  

Yn ogystal, mae'r prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru wedi cyhoeddi ei strategaeth newydd y mis hwn, sef 'Adeiladu cartrefi, creu cymunedau, newid bywydau'. Mae'r strategaeth hon yn amlinellu sut bydd y rhaglen yn parhau i hybu a chefnogi tai cydweithredol fel ffordd o ddiwallu'r angen am dai yng Nghymru. Mae'r strategaeth ar gael yn: http://wales.coop/helping-people-set-up-housing-coops/ (dolen allanol).