Mae'r Gweinidog dros Blant wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy na £670,000 i sicrhau bod plant ag anghenion addysgol arbennig yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'u hariannu gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i bobl gymwys sy'n gweithio ac sy'n rhieni i blant tair a phedair oed yng Nghymru.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd. Bydd ar gael ledled y wlad erbyn 2020.
Darperir y Grant AAA o £670,000 i sicrhau bod elfen gofal plant y cynnig yn cynnwys plant cymwys a chanddynt AAA. Bydd awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio i ddileu'r rhwystrau posibl sy'n atal rhieni â phlant y maent yn credu bod ganddynt AAA, neu y nodwyd bod ganddynt AAA, rhag manteisio ar elfen gofal plant y cynnig.
Meddai'r Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies:
"Rwy'n falch o allu neilltuo'r cyllid hwn i'r sector gofal plant er mwyn sicrhau y gall plant ag anghenion addysgol arbennig elwa o Gynnig Gofal Plant arloesol Llywodraeth Cymru.
"Bydd darparu gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn cefnogi ein hymgais i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd a manteision hirdymor i'n plant ac yn gwella eu cyfleoedd bywyd.
"Ceir tystiolaeth glir mai gwaith â chyflog da yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'r amddiffyniad mwyaf yn erbyn tlodi. Bydd y Cynnig Gofal Plant yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru ac yn ei gwneud yn haws i rieni dderbyn swydd a'i chadw."