Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mentrau a fydd yn helpu i sicrhau cysylltiadau Cymru â rhanbarthau, gwledydd a rhwydweithiau Ewropeaidd yn y dyfodol ar ôl Brexit yn cael £320,000, cyhoeddodd Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid, sy'n dod o Gronfa Bontio'r UE Llywodraeth Cymru, yn mynd tuag at nifer o brosiectau a fydd yn helpu i ddiogelu cysylltiadau presennol o fewn y meysydd iechyd, addysg, diwylliant a gwyddoniaeth.

Un o’r buddsoddiadau mwyaf yw buddsoddiad mewn cynllun peilot symudedd allanol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed mewn addysg bellach i astudio neu weithio yn Llydaw. Bydd hyn yn caniatáu i brentisiaid a dysgwyr galwedigaethol ifanc o Gymru, ynghyd â staff a fydd yn teithio gyda nhw, weithio ac astudio yn Llydaw. 

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

“Gan ystyried methiant Llywodraeth y DU i sicrhau cytundeb synhwyrol i ymadael â'r UE, a'r perygl gwirioneddol o gael Brexit heb gytundeb, mae'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau yng Nghymru wedi ei wneud dros sawl degawd i ddatblygu cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd  mewn perygl difrifol o gael ei ddifrodi.

“Gallai'r manteision sylweddol yr ydym wedi eu hennill o ganlyniad i'r cysylltiadau hyn gael eu tanseilio'n ddifrifol oni bai ein bod yn ymdrechu’n galetach i gynnal a chryfhau cysylltiadau gyda phartneriaid dramor. Yn ein barn ni, mae'n hollol hanfodol ein bod yn cynnal a chryfhau cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraethau rhanbarthol a chenedlaethol, a rhwng sefydliadau yng Nghymru a'u sefydliadau cyfatebol dramor.

“Bydd y cyllid yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cynorthwyo sefydliadau yng Nghymru i gynnal a chryfhau’r cysylltiadau hollol hanfodol hynny gyda phartneriaid strategol allweddol yn Ewrop mewn byd ar ôl Brexit. Bydd yn ariannu ystod o weithgareddau wedi’u hanelu at liniaru'r risgiau y mae Brexit yn eu peri i gysylltiadau Cymru â phartneriaid strategol allweddol yn Ewrop.”

Mae'r prosiectau eraill yn cynnwys:

  • Datblygu proffil iechyd rhyngwladol Cymru: bydd hyn yn golygu atgyfnerthu cysylltiadau â llywodraethau is-genedlaethol eraill yn y maes hwn, yn enwedig Fflandrys a Gwlad y Basg.
  • Cysylltiadau diwylliannol: Cefnogi Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i sefydlu'r cynllun peilot ‘man gwybodaeth’, a fydd yn darparu gwybodaeth ar faterion cyfreithiol a materion ymarferol eraill yn ymwneud â symudedd artistiaid i sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac i'r rheini sy'n teithio i Gymru.
  • Cydweithio gwyddonol: Prosiect i gefnogi prifysgolion Cymru i fod yn rhan o bedwar Llwyfan Technoleg Ewropeaidd sy'n hwyluso cysylltiadau traws-Ewropeaidd.
  • Cysylltu ein clystyrau: Bydd hyn yn golygu ymweliadau gan glystyrau Cymru â rhanbarthau a dargedir yn yr UE i ddatblygu cydweithio a phartneriaeth. 

Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i ddigwyddiad arddangos rhyngwladol i dynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru ym maes cynaliadwyedd, datgarboneiddio a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd seminar hefyd yn cael ei chynnal ym Mrwsel ar agenda 'gwaith teg' Llywodraeth Cymru, i arddangos sut mae Cymru’n arwain y ffordd ar y mater hwn.