Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn targedu mentrau ar gyfer atal achosion o hunanladdiad a lleihau'r cyfraddau yng Nghymru wrth fuddsoddi cyllid newydd ar gyfer iechyd meddwl.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae iechyd meddwl yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. I gefnogi hyn, mae Gweinidogion yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda £655m yn cael ei fuddsoddi yn 2018-19.

Bob blwyddyn, mae rhyw 300 i 350 o fywydau'n cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i hunanladdiad. Mae'r Strategaeth Siarad â fi 2 wedi arwain at fwy o ffocws ar weithio amlasiantaethol i atal hunanladdiad, ac mae cynlluniau wedi cael eu rhoi ar waith ym mhob rhan o Gymru.

Wrth ddarparu ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol i hunanladdiad, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi heddiw y bydd £500,000 arall y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi'n benodol i gefnogi dulliau cenedlaethol a rhanbarthol o fynd ati i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Recriwtio arweinwyr cenedlaethol a rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru
  • Rhoi'r llwybr ôl-ymyrraeth cymorth ar ôl hunanladdiad ar waith i helpu'r rheini sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad, yn ogystal â chynnal adolygiad llawn o gymorth a buddsoddiad wedi'i dargedu i wella hyn 
  • Codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod mwy o adnoddau i'w cael gan gynnwys Cymorth wrth Law Cymru a gwefan newydd ar atal hunanladdiad sydd wedi'i datblygu gan y grŵp cynghori cenedlaethol, talktometoo.wales
  • Rhoi canllawiau ar hyfforddiant atal hunanladdiad i staff sy'n gweithio ar draws y gwasanaeth cyhoeddus
  • Darparu cyllid i gefnogi rhaglenni a mentrau y profwyd eisoes eu bod yn effeithiol.

Dywedodd, Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

“Mae gwella iechyd meddwl a llesiant ac atal hunanladdiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

“Allwn ni ddim rhagweld bob amser pwy fydd yn cael ei effeithio gan hunanladdiad. Ond, mae modd atal hunanladdiad os allwn ni leihau'r ffactorau sy'n golygu bod risg ei fod yn fwy tebygol o ddigwydd. Dyna pam byddwn ni'n targedu'r buddsoddiad ychwanegol rydyn ni'n ei wneud at gamau a all helpu i atal neu leihau ymddygiadau sy'n cael eu cysylltu â hunanladdiad, yn ogystal â darparu cymorth priodol i gymunedau ddelio â'r mater cymhleth hwn.

“Fel cymdeithas, rhaid inni gyd weithio gyda'n gilydd i atal hunanladdiad. Mae gan ffrindiau, teuluoedd, sefydliadau, a chymunedau, bob un ohonynt, eu rhan eu chwarae."