Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi £500,000 ychwanegol i wella mynediad cymunedau at ddiffibrilwyr.
Bydd cynyddu nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol yn helpu i wella cyfraddau goroesi pobl sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i ysbyty.
Bydd y cyllid yn galluogi grwpiau cymunedol, meysydd chwaraeon a sefydliadau cyhoeddus i gael mynediad at ddiffibriliwr ac mae’n hwb ychwanegol i’r £500,000 a gyhoeddwyd ym mis Medi'r llynedd.
Roedd y buddsoddiad blaenorol wedi arwain at gymeradwyo dros 400 o geisiadau am ddiffibriliwr, gan sefydliadau megis cynghorau lleol a chynghorau tref, cymdeithasau preswylwyr, campfeydd, ysgolion, lleoliadau chwaraeon, sefydliadau gofal plant a mannau addoli.
Bob blwyddyn ym mis Chwefror, mae ymgyrch #Defibuary yn cael ei chynnal am fis i godi ymwybyddiaeth a rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl allu achub bywyd.
Mae siawns rhywun o oroesi ataliad y galon y tu allan i ysbyty yn lleihau 10% bob munud sy’n mynd heibio. Bob blwyddyn yng Nghymru, mae oddeutu 6,000 o bobl yn dioddef ataliad sydyn ar y galon.
Mae’r ymgyrch Achub Bywydau Cymru, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth, ariannu adnoddau addysgol a hyfforddiant CPR newydd a gwella mynediad y cyhoedd at ddiffibrilwyr.
Ar hyn o bryd mae 6,188 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi’u cofrestru ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Circuit (y rhwydwaith cenedlaethol o ddiffibrilwyr).
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Rwy’n falch o allu cyhoeddi £500,000 ychwanegol o gyllid, sy’n golygu ein bod wedi buddsoddi £1 miliwn mewn diffibrilwyr cymunedol yn y chwe mis diwethaf.
Rwyf wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o sgiliau achub bywyd a sicrhau gwell mynediad cymunedol at ddiffibrilwyr ar draws Cymru.
Mae’n bwysig bod gennym rwydwaith cynhwysfawr o ddiffibrilwyr, bod pobl yn ymwybodol o’r rhwydwaith hwnnw a bod ganddynt yr hyder i’w defnyddio. Bydd y gwaith gan Achub Bywydau Cymru yn helpu i gefnogi hyn.
Mae pob eiliad yn bwysig pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon. Gallwn ni i gyd helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi CPR a defnyddio diffibriliwr yn gynnar.