Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bron £2 miliwn o gyllid gan yr UE i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith a rhai o'r heriau a wynebir gan weithwyr â sgiliau is yn y De-ddwyrain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyfarnwyd £1.94 miliwn o gyllid yr UE i gynllun Skills@Work, a fydd yn cefnogi tua 1,400 o bobl dros y pedair mlynedd nesaf. Arweinir y cynllun, a fydd yn cynnwys gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig, gan Gyngor Dinas Casnewydd, a bydd pobl yn siroedd Caerdydd a Mynwy'n elwa arno hefyd.

Bydd y cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu yn y gymuned, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, TGCh a sgiliau eraill. Bydd yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr i ennill cymwysterau Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru lefel mynediad un a dau, gan wella diogelwch swyddi a'u rhagolygon o ran cyflog. Disgwylir i dros 1,000 o bobl a fydd yn cael eu helpu gan y cynllun, ennill cymhwyster.

Bydd y cynllun yn helpu pobl i wella eu rhagolygon yn ogystal â hynny entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth er mwyn caniatáu i bobl adael tlodi mewn gwaith a symud ymlaen yn y farchnad lafur.

Dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit:

"Yn anffodus, mae tua un o bob 10 person mewn swyddi yn y DU yn dioddef tlodi mewn gwaith. Mae swyddi rhan-amser, cyfraddau isel o gyflog fesul awr a diffyg cyfleoedd i symud gyrfa ymlaen i gyd yn cyfrannu at y sefyllfa. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hyn, ac rwy'n hyderus fod ymdrechion ar y cyd fel hwn, a wnaed yn bosibl gan arian yr UE ac a arweinir gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn gallu ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae sicrhau bod gennym weithlu sy'n meddu'r sgiliau y mae eu hangen i ffynnu mewn economi fodern yn hollol greiddiol i'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Bydd y cyllid hwn yn galluogi gweithwyr sy'n dioddef diffyg sgiliau o'r fath ar hyn o bryd i gael yr hyfforddiant y mae ei hangen arnynt i ennill cymwysterau cydnabyddedig ac i symud ymlaen yn eu gyrfa. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith mewn ardaloedd lle y gwyddom ei fod yn rhy gyffredin o lawer."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

"Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd hanes o gyflawni cynlluniau i wella sgiliau pobl felly rydw i wrth fy modd bod cynllun Skills@Work wedi'i gymeradwyo."

Ochr yn ochr â chymwysterau ffurfiol, bydd cymorth ar gael â sgiliau ehangach sy’n berthnasol i fyd gwaith, fel gwasanaethu cwsmeriaid, gweithio mewn tîm, cyfathrebu a datrys problemau, a sgiliau’n ymwneud â datblygu gyrfa fel ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais a thechnegau i’w defnyddio mewn cyfweliadau. Mae help hefyd ar gael i fynd i’r afael â rhwystrau personol fel hyder, cymhelliant a hunan-barch ac i gael gwared ar rwystrau penodol ynghylch gwaith sydd efallai’n cyfyngu ar gyflogadwyedd unigolion.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE wedi creu 47,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, yn ogystal, maent wedi helpu dros 85,000 o bobl i gael swyddi.