Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd pob cyngor yng Nghymru yn cael £10,000 yn ychwanegol i brynu offerynnau cerdd i ddisgyblion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid gwerth £220,000 yn helpu gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol i brynu offerynnau i’w rhannu ledled Cymru, a chael eu targedu at y rheini sydd â'r angen mwyaf.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Nid oes modd i gariad a thalent cerddorol person ifanc ddatblygu oni bai ei fod yn cael y cyfle i chwarae offeryn cerdd o'i ddewis, yn arbennig y rheini sydd am symud ymlaen i'r lefel nesaf a chael hyfforddiant cerddorol ar lefel unigol. Dyna pam fy mod yn cyhoeddi £220,000 o gyllid yn ychwanegol, sy'n golygu y bydd £10,000 ar gael i bob awdurdod lleol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i brynu offerynnau newydd.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda chynghorau i lunio dull o rannu offerynnau yn genedlaethol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud gwell defnydd o'u stoc bresennol o offerynnau, a gweld lle mae bylchau yn bodoli. Bydd y cyllid newydd hwn yn gallu helpu i fynd i'r afael â hyn."

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £1 miliwn ar gael i sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, a fydd yn galluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd cerddorol. Y nod yw y bydd y gronfa yn creu o leiaf £1 miliwn y flwyddyn yn y pen draw, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau cerddorol ychwanegol ar gyfer pobl ifanc ar draws y wlad.