Neidio i'r prif gynnwy

Fel rhan o'i hymrwymiad i gryfhau economïau lleol a bob dydd Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiect arloesol a fydd yn arwain at gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yng nghanol pedair cymuned ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chynllun Cyflawni Sylfaenol newydd sy'n nodi sut y bydd yn datblygu cynlluniau i feithrin a chryfhau economi bob dydd Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r Economi Sylfaenol yn cefnogi’r swyddi sydd wrth wraidd ein cymunedau lleol, ar draws sectorau fel gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, twristiaeth, adeiladu a manwerthu. Amcangyfrifir bod y rhan hon o'r economi yn cyfrif am bedair swydd ym mhob deg ac am £1 ym mhob £3 a gaiff eu gwario gan bobl.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi cyfanswm o £4.5 miliwn yn y maes hwn o’r economi drwy ei Chronfa Her yr Economi Sylfaenol, sy'n cefnogi 52 o brosiectau sy'n profi ffyrdd newydd ac arloesol o wneud i'r economi bob dydd weithio'n well i bob cymuned yng Nghymru. Mae hefyd yn dyrannu £3 miliwn ychwanegol i gefnogi'r Economi Sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae'n gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar fanylion ynghylch sut y caiff yr arian hwn ei wario.

Fel rhan o'i hymrwymiad i'r economi bob dydd, mae Llywodraeth Cymru am weld mwy o arian yn cael ei wario'n lleol a'i gadw yng nghymunedau Cymru.

Mae'r prosiect cynhyrchu bwyd cynaliadwy, Crop Cycle, yn un o'r 52 o brosiectau a bydd yn tynnu ynghyd sefydliadau cymunedol, busnesau a'r sector cyhoeddus lleol i gyflwyno cynlluniau twf bwyd ecogyfeillgar.

Bydd Crop Cycle, sydd wedi derbyn £481,000 gan y Gronfa, yn defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg drwy Amaethyddiaeth yr Amgylchedd a Reolir (CEA) i gynhyrchu planhigion yn berffaith. Bydd y bwyd a'r planhigion a gynhyrchir yn cael eu gwerthu'n lleol, peth ohono i brynwyr sy’n agos iawn at ble caiff ei gynhyrchu.

Gallai'r prosiect peilot, sy'n cael ei arwain gan elusen gofrestredig Ffermydd Cymdeithasol a Gerddi gyda chymorth grŵp diddordeb arbennig CEA NutriWales, gael ei gyflwyno ledled gweddill Cymru os bydd yn llwyddiannus.

Mae pedwar busnes amaeth-dechnoleg, Digital Farming Ltd, LettUs Grow, Grow Stack a Farm Urban, hefyd yn cefnogi'r prosiect yn y pedwar safle cymunedol. Y rhain yw Fferm Gymunedol Greenmeadow yng Nghwmbrân, Croeso I’n Coedwig yn Nhreherbert, Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth yn Wrecsam, ac un olaf gyda Cultivate, yn y Drenewydd, Powys.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Rydym yn aml yn credu bod yr economi'n ymwneud ag arian yn unig, ond mewn gwirionedd mae hefyd yn ymwneud â'r cartrefi rydyn ni'n byw ynddynt, yr egni rydyn ni'n ei ddefnyddio a'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta.

"Mae atgyfnerthu'r cyflenwad bwyd lleol yn ffocws allweddol i'r Llywodraeth hon yng Nghymru ac mae'r prosiect hwn yn cynnig dull modern o dyfu bwyd mewn modd gwirioneddol gynaliadwy. Hyd yma, mae'r dulliau o ymdrin â CEA wedi bod yn wahanol iawn ac nid ydynt wedi cael cymorth i raddau helaeth. Drwy'r cynllun peilot unigryw hwn byddwn yn cynnig potensial twf gwirioneddol ar raddfa sy'n effeithiol, y mae modd ei efelychu ac mewn modd sy’n sicrhau manteision pendant i'r pedair cymuned dan sylw."

"Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Sylfaenol newydd yn ddiweddar i ddarparu glasbrint er mwyn i weithgarwch y llywodraeth yn y dyfodol ddefnyddio'r holl ysgogiadau polisi a chyflenwi sydd ar gael i gryfhau'r sectorau Sylfaenol hanfodol. Rydym yn gweithio'n galed i gefnogi'r rhan hon o'r economi i sicrhau bod gan bawb fynediad at nwyddau a gwasanaethau hanfodol sylfaenol yn y rhan hon o'r economi, bod y bobl sy'n eu darparu yn cael eu gwerthfawrogi'n briodol ac y gall ein gwasanaethau cyhoeddus gaffael mwy o nwyddau fel bwyd yn lleol lle bo hynny'n bosibl.”

Dywedodd Ian Thomas, o Croeso I’n Coedwig:

"Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar y cyfleuster tyfu yn Nhreherbert ac rydym yn gyffrous i ddod â phrosiect mor arloesol a blaengar i'n stryd fawr leol. Rydym eisoes wedi bod yn ymgysylltu â chymuned y Rhondda Uchaf i archwilio'r prosiectau sy'n defnyddio ein coetiroedd yn weithredol er budd y rhai y maent yn eu hamgylchynu, ac mae mentrau fel hyn yn helpu i roi syniad i bobl leol o'r hyn y gellir ei gyflawni."

Dywedodd Gary Mitchell, rheolwr Cymru ar gyfer Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol:

"Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y prosiect peilot ar draws set amrywiol o safleoedd i gael mewnwelediad a gwybodaeth bellach am sut y gall systemau amaethyddol newydd gefnogi cymunedau'n llwyddiannus i ddarparu bwydydd lleol, ffres a maethlon yn ogystal â manteision cymdeithasol pwysig mewn modd cynaliadwy."

Dywedodd Dr Gareth Jones, Prif Swyddog Gweithredol Ffermio Digidol, sydd wedi'i leoli yng Nghymru:

"Roeddem yn falch iawn o gael y prosiect hwn ac rydym wedi mwynhau gweithio gyda'r timau ar Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Fferm Greenmeadow a Cultivate i ddod â chysyniad newydd at ei gilydd i archwilio'r busnes o dyfu'n lleol gan ddefnyddio Amaethyddiaeth yr Amgylchedd a Reolir i wella maeth i gymunedau."