Bydd grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies heddiw bod £150,000 ar gael o Gronfa Bontio'r UE i ariannu ymchwil i'r ffordd y gallai proses Brexit effeithio ar wasanaethau cymunedol yng Nghymru, a helpu'r sector i gynllunio ar gyfer pob sefyllfa bosib.
Bydd yr ymchwil yn helpu grwpiau cymunedol i sicrhau bod unrhyw gynlluniau a pharatoadau wrth gefn yn gymesur, ac yn rhoi sicrwydd i'r sector a'r cymunedau sy'n manteisio ar y gwasanaethau.
Cyhoeddodd Alun Davies y byddwn yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gyflawni'r prosiect, gan ddweud:
"Beth bynnag fydd ffurf Brexit yn y pen draw, bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn amharu ar sawl maes. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posib.
“Wrth i ddyddiad Brexit agosáu, bydd rhaid i gyrff trydydd sector feddwl yn ofalus sut i ymateb i'r newidiadau sy'n codi a darparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau. Rydyn ni am sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n parhau i ddarparu'r safonau uchaf posib i bobl Cymru ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac fe fydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau hynny."
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ruth Marks:
"Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid hwn. Mae llawer o ansicrwydd ynghylch Brexit a'r goblygiadau posibl i'r grwpiau a'r cymunedau mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddeall dibyniaeth Cymru ar y trydydd sector i ddarparu gwasanaethau cymunedol hanfodol bwysig, a'r ffordd y gallai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd effeithio ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i'r cymunedau mwyaf anghenus."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi sefydliadau partner trwy broses Brexit, ac ystyried pa gyngor, canllawiau a chymorth ariannol y gellid eu darparu i'w helpu i ddygymod â'r newid hwn.
Cyhoeddwyd Cronfa Bontio'r UE ym mis Ionawr fel rhan o'n cynlluniau ar gyfer Brexit i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i baratoi at y newidiadau sylweddol sydd o'n blaenau. Bydd y Gronfa yn darparu cyfuniad o gymorth ariannol a benthyciadau ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor i fusnesau a chyrff sector cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys cyngor technegol a masnachol, cyngor ar allforio a chyngor sy’n benodol ar gyfer sectorau.