Heddiw, 24 Ionawr, mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi £5 miliwn i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a mynediad at ofal yn y gymuned i helpu pobl i aros yn heini ac yn annibynnol.
Bydd y cyllid ar gael o fis Ebrill 2023 ymlaen ac fe fydd yn cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr cymorth yn y gymuned yn y Gwasanaeth Iechyd. Byddan nhw’n cynorthwyo pobl i aros yn annibynnol ac yn iach gartref, gan helpu i atal derbyniadau i’r ysbyty a helpu pobl i gael eu rhyddhau’n gyflym o’r ysbyty drwy sicrhau bod y cymorth a’r trefniadau adsefydlu cywir ar gael i adfer gartref.
Grŵp o 13 o broffesiynau yw gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan gynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, deietegwyr a seicolegwyr. Maen nhw’n rhan o dimau iechyd cymunedol lleol ac yn darparu gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar a threfniadau amgen i dderbyniadau i’r ysbyty. Maen nhw hefyd yn lleihau’r angen am ofal cymdeithasol hirdymor.
Mae cefnogi pobl i adfer gartref drwy adsefydlu neu eu helpu i dreulio llai o amser mewn gwely ysbyty yn gallu bod o fudd mawr i les pobl, gwella canlyniadau iechyd a chyflymu’r broses adfer.
Dyma rai enghreifftiau o sut y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd helpu pobl i gael gofal a chymorth adsefydlu yn y gymuned:
- Creu wardiau rhithwir sy’n galluogi cleifion i gael y driniaeth angenrheidiol gartref yn ddiogel ac yn hwylus, yn hytrach na bod yn yr ysbyty, neu ehangu’r timau adnoddau cymunedol sy’n rhoi dewisiadau amgen i feddygon a pharafeddygon yn lle adrannau achosion brys.
- Trin pobl sydd wedi cwympo gartref, os nad oes angen iddyn nhw fynd i’r ysbyty, a darparu rhaglen ofal a chyngor i leihau’r tebygolrwydd o gwymp arall ac i adfer eu hyder a’u cryfder.
- Darparu ymyriadau effeithiol i helpu pobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia i barhau i fyw gartref, cefnogi gofalwyr teuluol ac arafu unrhyw ddirywiad yn eu cyflwr.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:
Mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau yn y gymuned. Rydyn ni am i bobl fyw gartref, mor annibynnol â phosib’ ac am gyhyd â phosib’.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl hŷn sy’n eiddil neu sydd â llawer o gyflyrau iechyd yn gallu dirywio’n gyflym os byddan nhw’n aros yn llonydd mewn gwely am yn rhy hir. Yn ogystal, os ydyn nhw wedi bod yn yr ysbyty, pan fyddan nhw’n gadael maen nhw’n gallu bod yn llai heini ac annibynnol na phan aethon nhw i’r ysbyty. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu ni i helpu pobl i ddychwelyd adref cyn gynted â phosib’, gan roi’r asesiad a’r cymorth adsefydlu cywir iddyn nhw. Bydd hyn yn eu galluogi i aros yn heini am gyhyd â phosib’, gan fyw gyda’u teuluoedd a gwneud y pethau maen nhw’n mwynhau eu gwneud yn eu bywydau pob dydd.
Ar hyn o bryd, nid oes digon o bobl yn gallu manteisio ar arbenigedd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i wella eu hiechyd a’u hadferiad. Dyna pam rwy’n cyhoeddi £5 miliwn i wella mynediad at weithwyr proffesiynol medrus a gwasanaethau i ddarparu dewisiadau amgen i dderbyniadau i’r ysbyty a lleihau dibyniaeth ar ofal cymdeithasol hirdymor. Bydd ehangu’r gwasanaethau iechyd sy’n gallu cael eu darparu yn y gymuned yn ein helpu i fynd i’r afael â pheth o’r pwysau sydd ar ein system iechyd a gofal ar hyn o bryd.
Dywedodd Prif Gynghorydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Ruth Crowder:
Mae’r galw am sgiliau gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wedi cynyddu ers y pandemig. Mae pobl yn mynd at wasanaethau gydag anghenion mwy cymhleth. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhagori mewn darparu triniaethau sy’n arbennig o werthfawr wrth gefnogi anghenion cymhleth, amlweddog pobl sy’n fregus neu’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor.
Heb wasanaethau proffesiynau perthynol i iechyd mewn cymunedau, mae’n bosib’ y caiff pobl eu derbyn i’r ysbyty pan ellid bod wedi’u trin gartref. Efallai hefyd na fydd modd rhyddhau pobl o’r ysbyty pan fydd eu triniaeth acíwt wedi dod i ben neu fe fyddan nhw’n symud i ofal preswyl neu ofal nyrsio yn gynharach nag y bydden nhw wedi’i wneud fel arall, gan gynyddu’r pwysau ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd gwella mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn dod â gweithlu ehangach at ei gilydd mewn system gofal sylfaenol ddiwygiedig.