Cyllid i godi adeilad diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr sy’n rhan gyntaf o barc technoleg fodurol newydd
Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi y cyllid cyn ymweld â Glynebwy ddydd Llun lle bydd yn cyfarfod â phrentisiaid lleol ac yn siarad ag aelodau bwrdd yr ardal fenter, ac eraill, am ei gynlluniau a’i weledigaeth ar gyfer yr ardal.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100 miliwn dros 10 mlynedd mewn parc technoleg fodurol ym Mlaenau Gwent, a allai arwain at greu 1,500 o swyddi llawn amser newydd yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Y parc yw un o’r chwe chanolfan strategol a nodir yng nghynllun gweithredu tasglu’r Gweinidogion ar gyfer Cymoedd De Cymru, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
Cyn ei ymweliad â Glynebwy, dywedodd:
“Rwy’n awyddus iawn i roi ein cynlluniau ar waith i sefydlu parc technoleg gwerth £100 miliwn cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau’r swyddi o ansawdd uchel a buddsoddiad yng Nglynebwy i sbarduno twf yn economi Blaenau'r Cymoedd.
“Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo’r cyllid sydd ei angen i ddylunio ac adeiladu safle diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd y Blew, Glynebwy, sy’n gam cyntaf y prosiect.
“Ers imi gyhoeddi cynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu’r parc technoleg, mae nifer o ymholiadau wedi dod i law gan gwmnïau modurol sy’n ystyried symud i Lynebwy. Rwy’n hyderus y bydd adeiladu’r parc technoleg newydd yma yn ein helpu i ateb gofynion y farchnad.
“Heb os, mae hwn yn amser tyngedfennol yn hanes y diwydiant modurol. “Hoffwn i weld y parc technoleg newydd yn dod yn enwog fel canolfan ar gyfer datblygu a defnyddio technolegau arloesol ym maes trafnidiaeth ddeallus. Rwy’n hyderus y bydd cynnwys technoleg profi 5G yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn.
"Mae angen i’r prosiect hwn gael effaith yn y tymor byr ac yn y tymor hir. Rhaid inni parhau i ganolbwyntio ar y presennol ac mae hyn yn golygu canolbwyntio ar swyddi presennol a’r injans petrol a fydd gyda ni am gryn amser eto. Ond mae’n rhaid inni fod yn barod i fanteisio ar y newidiadau cyflym sy’n digwydd yn y diwydiant modurol. Mae angen i’r parc a’n buddsoddiad fod yn ddigon hyblyg i elwa ar dechnolegau glanach y dyfodol.
“Mae angen inni fod yn ddeallus ac yn barod i gydweithio i sicrhau llwyddiant y parc technoleg. Mae hynny’n golygu defnyddio cyllid y sector preifat a’r sector cyhoeddus, cydweithio â’n partneriaid, a buddsoddi mewn sgiliau lleol.
“Ryw’n edrych ymlaen nes ymlaen heddiw at gyfarfod â grŵp o brentisiaid Aspire sy’n gweithio a hyfforddi yng Nglynebwy a’i chyffiniau. Mae eu sgiliau nhw, a sgiliau pobl eraill ym Mlaenau’r Cymoedd, yn allweddol i sicrhau llwyddiant y parc technoleg hwn. Mae dyletswydd arnon ni iddyn nhw ac i’r rhanbarth i sicrhau y llwyddiant hwn”.
Dywedodd Mark Langshaw, Cadeirydd Bwrdd Ardal Fenter Glynebwy:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael croesawu Ysgrifennydd yr Economi i Lynebwy eto i drafod cynlluniau ar gyfer y parc technoleg gwerth £100 miliwn. Mae’n dda gweld bod y gwaith yn mynd rhagddo a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi adeilad diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd y Blew. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl Blaenau Gwent a thu hwnt."
Bydd Ysgrifennydd yr Economi a’r Gweinidog Alun Davies yn cydgadeirio cyfarfod arall Tasglu’r Cymoedd ar ymgysylltu â’r cyhoedd, nes ymlaen heddiw yn Athrofa Glynebwy. Bydd ffyniant economaidd a chyfleoedd i fanteisio ar amgylchedd naturiol yr ardal yn cael eu trafod yn ystod y cyfarfod.