Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cymeradwyo £4.125 miliwn ar gyfer canolfan dechnoleg newydd safon diwydiant yng Ngholeg Cambria.
Cafodd arian cyfatebol Llywodraeth Cymru ei ddyfarnu i'r Coleg ar gyfer y prosiect, a fydd yn costio cyfanswm o £8.25 miliwn.
Yn ychwanegol at adnewyddu'r adeiladau presennol, caiff yr arian ei ddefnyddio i adeiladu adeilad deulawr newydd a fydd yn ganolfan dechnoleg ar Gampws presennol y Coleg ar Bersham Road. Bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleuster dysgu safon diwydiant gwell ar gyfer gweithgynhyrchu a darpariaeth ym meysydd adeiladu, peirianneg a cherbydau modur.
Bydd lle i dros 500 o ddysgwyr yn yr adeilad newydd, y disgwylir ei gwblhau erbyn mis Medi 2017. Ar ben hynny, bydd dros 500 o ddysgwyr ychwanegol yn gallu defnyddio’r cyfleusterau newydd.
Mae'r cyllid wedi'i ddyrannu fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sy'n gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Lleol. Nod y rhaglen yw creu seilwaith addysg yng Nghymru ar gyfer yr 21 ganrif.
Mae'r rhaglen yn sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer yr ysgolion iawn ac yn y lleoedd iawn – ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar hyd at addysg ôl-16.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Bydd yr adeilad yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf i hyrwyddo cynnig y Coleg o ran cael cwricwlwm sy'n diwallu anghenion cyfredol y dysgwr a'r cyflogwr.
“Mae'r galw am gael rhywbeth newydd a gwahanol ar gyfer y ddarpariaeth ôl-16 nid yn unig yn ymwneud â chodi lefelau cyrhaeddiad a sgiliau; mae hefyd yn ymwneud â hybu economi ehangach Cymru, sy'n dibynnu ar y pethau hyn.”