Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dros £21.5 miliwn i helpu cynghorau ledled y wlad i atgyweirio difrod llifogydd i ffyrdd, pontydd a llwybrau bordiau.
Bydd Llwybr Bordiau Rest Bay ym Mhorthcawl a Phont Berw ym Mhontypridd yn elwa ar y buddsoddiad, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James a'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn cynnwys:
- Cyngor Rhondda Cynon Taf a fydd yn derbyn £4.4 miliwn ar gyfer gwaith maent yn ei wneud i atgyweirio ffyrdd, pontydd, cwlfertau a waliau cynnal ar draws yr awdurdod;
- £120,000 yn Nhorfaen i ailadeiladu ac atgyweirio wal yr afon a gafodd hysgubo i ffwrdd ym maes parcio St Alban;
- Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn £40,000 i atgyweirio waliau, ffensys a llwybrau troed yn ardal Cyngor Cymuned Gwledig Llangollen;
- £875,000 ar gyfer Cyngor Sir Casnewydd i atgyweirio difrod i amddiffynfeydd llifogydd ym Masaleg;
- £718,000 yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer atgyweirio Pont Afon Blaengwrach;
- Bydd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £50,000 ar gyfer gwaith atgyweirio maent wedi’i gynnal ar Lwybr Bordiau Rest Bay.
Dywedodd Julie James:
“Flwyddyn ar ôl Storm Dennis, mae cynghorau'n parhau i atgyweirio’r difrod llifogydd difrifol i ffyrdd, pontydd, palmentydd a waliau a welwyd mewn sawl rhan o Gymru.
"Ar ôl ein hymateb brys cychwynnol, rydyn ni wedi bod yn eu cefnogi i wneud y gwaith atgyweirio parhaus hwn, a oedd yn cynnwys gwaith yr oedd angen ei wneud cyn dechrau'r gaeaf hwn i atal rhagor o ddifrod. Rwy'n falch o weld bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru."
Dywedodd Rebecca Evans:
"Roedd y difrod a achoswyd gan stormydd y llynedd yn ergyd drom i gymunedau yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u gwaith adfer ac atgyweirio parhaus."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Roedd llifogydd y llynedd yn ddinistriol iawn i deuluoedd, cartrefi a busnesau ledled Cymru – felly, rwy'n falch iawn o weld yr arian ychwanegol hwn yn cael ei gyhoeddi.
"Yn dilyn y llifogydd a welwyd y llynedd, gwnaethon ni ddarparu mwy na £5 miliwn i ganiatáu atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd yn ddi-oed. Bydd yr arian hwn yn gwella ymhellach y gwaith parhaus gyda'n hawdurdodau rheoli risg, i ddiogelu cymunedau rhag risg uwch o lifogydd”