Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Brexit, heddiw wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £1.3m i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith, rhwystrau sy'n cael eu gwaethygu gan salwch meddwl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Dysgu i Dyfu yn gweithio gyda 300 o oedolion sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl ac sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir, a hynny yn ardaloedd Casnewydd, Sir Fynwy, Caerdydd a Bro Morgannwg. 

Bydd y prosiect yn helpu pobl i feithrin sgiliau newydd cysylltiedig â gwaith drwy weithgareddau ymarferol sy’n ymwneud â garddwriaeth, gwaith coed, TGCh a chrefftau. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ddysgu seiliedig ar waith a fydd yn arwain at achredu sgiliau sy'n berthnasol i swyddi. 

Y nod yw gwella llesiant meddyliol a chorfforol drwy annog dull cydweithredol o fynd i'r afael â gweithgareddau amgylcheddol a gweithgareddau dysgu, dull sy'n helpu i ysgogi a darparu trefn arferol bwrpasol, yn ogystal â pharatoi unigolion ar gyfer yr amgylchedd gwaith. 

Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd ac mae'n cael £700,000 o gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dywedodd Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:

"Mae hi’n anodd i bobl y mae salwch meddwl hirdymor wedi effeithio arnynt gadw swyddi oherwydd diffyg sgiliau bywyd a gwaith, a diffyg hyder.

"Bydd Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i feithrin sgiliau gwaith go iawn er mwyn iddynt allu cael gwaith ystyrlon a'i gadw. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i fagu hyder, hunan-barch a chymhelliant, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu unigolion i fynd yn ôl i'r gwaith.

"Mae llawer o fanteision yn deillio o helpu'r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur: grymuso unigolion, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, herio rhagdybiaethau cymdeithasol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, a mynd i'r afael â thlodi a diweithdra mewn cymunedau difreintiedig."  

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd yn nodi nifer o fesurau i helpu pobl ledled Cymru i gael gwaith. Rwy'n falch bod cyllid Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen Dysgu i Dyfu, a fydd yn hanfodol i helpu unigolion â phroblemau iechyd meddwl i oresgyn rhwystrau a all eu hatal rhag cael gwaith." 

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan yr elusen iechyd meddwl, Growing Space. 

Dywedodd Bill Upham o Growing Space:

"Mae Growing Space wedi ymrwymo'n llwyr i helpu unigolion sydd wrthi'n gwella, yn ogystal â’u teuluoedd. Bydd y prosiect Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth iddynt ymuno â’r gymdeithas eto."

Ers 2007, mae prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu 48,700 o swyddi a 13,400 o fusnesau newydd, gan gynorthwyo 26,900 o fusnesau a helpu 90,000 o bobl i gael gwaith.