Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, wedi cyhoeddi bydd cyllid gwerth £800,000 yn helpu prosiectau Dechrau'n Deg ledled Cymru i wella eu cyfleusterau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid hwn a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon (2016-17), yn cefnogi ystod eang o brosiectau, gan gynnwys gwneud gwaith adnewyddu llawn ar sawl adeilad Dechrau'n Deg, a newid cypyrddau cegin a ffensys sydd wedi torri. 

Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant bach 2-3 oed; helpu i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; cymorth i rieni; a gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen allweddol o ran ymyriad cynnar, sy’n helpu i wella cyfleoedd plant mewn bywyd ac yn lleihau'r angen i gymryd camau adferol yn nes ymlaen. Mae'n addas iawn ar gyfer mynd i'r afael â phrofiadau andwyol sy'n digwydd yn ystod plentyndod ac sy'n gallu effeithio ar bobl ifanc gydol eu bywydau.

"Dyma pam ein bod yn darparu dros £70 miliwn y flwyddyn mewn cyllid refeniw i'r Awdurdodau Lleol i ddarparu'r cynllun a pham ein bod eisoes wedi darparu £3m o gyllid cyfalaf eleni'n unig i sicrhau bod y plant yn cael y cyfleusterau gorau posibl. Bydd yr £800,000 yn ychwanegol yn sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfle i chwarae a dysgu mewn amgylchedd sy'n eu hysgogi a'u cyffroi."