Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau peiriannau awtomataidd arloesol ar gyfer TBD Ltd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ddiogelu 20 o swyddi, gwella effeithlonrwydd a darparu cyfleoedd twf newydd.
Mae TBD (Owen Holland) Ltd yn fusnes yng Nghymru a sefydlwyd yn 2003 ac sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae wedi dod yn un o brif gyflenwyr Cyfarpar Cymorth ar y Ddaear (GSE) y DU a datrysiadau mynediad arbenigol, gan gynnwys cerbydau arbenigol ardal ochr yr awyr, grisiau byrddio ar gyfer teithwyr a chriw, ac amrywiaeth eang o risiau mynediad cynnal a chadw ar gyfer pob math o awyren.
Bydd y cyllid o £183,267 gan Lywodraeth Cymru yn diogelu'r 20 swydd hynny ac yn arwain at greu 10 swydd fedrus iawn yn yr adrannau gweithgynhyrchu a pheirianneg.
Mae gan y cwmni sylfaen cwsmeriaid byd-eang o’r radd flaenaf, gyda chleientiaid sy’n cynnwys cwmnïau awyrennau rhyngwladol mawr a chwmnïau cludo ledled y byd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru. Rwy'n falch ein bod yn gallu gwneud y buddsoddiad hwn yn TBD (Owen Holland) Ltd, a fydd yn helpu i ddiogelu 20 o swyddi ac yn creu 10 o swyddi medrus iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a mathau eraill o ddigidoleiddio eisoes yn trawsnewid diwydiannau a chwmnïau unigol, gan chwalu'r ffiniau traddodiadol rhwng gwahanol sectorau o'r economi.
Yn y bedwaredd oes ddiwydiannol, mae prosesau gwaith yn esblygu'n gyflymach nag erioed o'r blaen. Mae mwy a mwy o fusnesau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn darparu gwasanaethau ac yn defnyddio technolegau digidol newydd mewn ffyrdd sy'n cael effaith enfawr ar ffiniau traddodiadol byd diwydiant.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu datblygu yr un mor gyflym â'r technolegau hynny, gan greu mwy o swyddi medrus iawn, ac mae’n bwysig cadw'r swyddi hynny yng Nghymru.
Dywedodd Steve Meredith, Prif Swyddog Gweithredol TBD:
Diolch i'r cymorth gwerthfawr hwn gan Lywodraeth Cymru, mae Cyfarwyddwyr TBD yn falch iawn o allu symud ymlaen gyda gwaith moderneiddio ac awtomeiddio ei phrosesau gweithgynhyrchu. Bydd y buddsoddiad yn sail i strategaeth graidd barhaus y cwmni o weithgynhyrchu ei holl gynnyrch yn Ne Cymru, a bydd llawer o’r cynhyrchion hynny yn cael eu hallforio ledled y byd yn y pen draw.