Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Canolfan Hamdden Splash Magic ym Mhlas Madog, Wrecsam yn cael grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y grant yn helpu i ariannu gwaith atgyweirio brys yn y ganolfan gan gynnwys gosod to newydd, trwsio gwifrau ac inswleiddio, cyfarpar newydd ar gyfer y pwll nofio ac uwchraddio'r system CCTV a'r larwm tân.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y byddai'r grant yn sicrhau bod y ganolfan yn addas i'r diben ac yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r ardal leol. 

Dywedodd:

"Mae'r ganolfan yn gyfleuster cymunedol pwysig. Nid ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd yn unig y mae'n cael ei defnyddio. Mae yna gaffi cymunedol yn y ganolfan ynghyd â lle chwarae meddal i blant a man i'r gymuned gyfarfod. Caiff y cyfleusterau hyn eu defnyddio'n rheolaidd gan amryw o grwpiau gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

"Mae'n bleser gennyf gymeradwyo'r grant hwn fel bod gwaith yn gallu dechrau ar y ganolfan i sicrhau ei bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol."