Neidio i'r prif gynnwy

3. Cyllid a chymhwystra

Mae busnesau o bob maint ac ym mhob sector yn gymwys.

Caiff y rhan fwyaf o'r hyfforddiant ei wneud gan y cyflogwr sy'n gweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy.

Y cyflogwr sy’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac am unrhyw hyfforddiant ychwanegol. Caiff costau'r hyfforddiant eu cefnogi gan y rhaglen brentisiaethau.

Mae'n bwysig gweithio gyda darparwr hyfforddiant mor gynnar â phosibl yn y broses. Byddant yn gallu rhoi help, cymorth ac arweiniad.

Cymhellion

I helpu busnesau i recriwtio prentisiaid, rydym yn cynnig cymhellion tan 31 Mawrth 2024.

Taliad cymhelliant ar gyfer cyflogi pobl anabl

  • bydd cyflogwyr sy'n recriwtio prentis anabl yn gymwys i gael cymhelliad i gyflogwyr gwerth £2,000 y dysgwr
  • cyfyngir taliadau i 10 dysgwr anabl i bob busnes 
  • mae'r cymelliadau yn berthnasol i brentisiaethau a gyflwynir ar Lefelau 2 i 5 yn unig, ac nid ydynt yn berthnasol i radd-brentisiaethau

Ni allwch hawlio: 

  • os ydych yn recriwtio ar gontract dim oriau
  • os ydych yn defnyddio model rhannu prentisiaeth
  • os nodir bod gan ddysgwr anabledd ar ôl recriwtio

Bydd y cymhellion ar gael drwy eich darparwr hyfforddiant.