Neidio i'r prif gynnwy

Cyffredinol

C1. Sut mae Cymru yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU?

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid drwy fformiwla Barnett, sef mecanwaith anstatudol y mae llywodraeth ganolog y DU yn ei defnyddio i ddyrannu gwariant cyhoeddus i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n seiliedig ar boblogaeth ac nid ar angen.

C2. Sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn eu cyllid?

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80 y cant o'r arian sy'n cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol yng Nghymru, drwy'r Grant Cynnal Refeniw. Mae'r arian sy'n cael ei ddyrannu ar gael i'r awdurdod ei wario fel y gwêl yn briodol, ar y gwahanol wasanaethau mae'n gyfrifol amdanyn nhw. Mae’r y cant arall o gyllid awdurdod lleol yn cael ei godi'n lleol ar ffurf y dreth gyngor a osodir gan bob awdurdod yn rhan o'r broses o sefydlu'r gyllideb flynyddol.

C3. Sut mae maint y cyllid mae cynghorau Cymru yn ei dderbyn ar gyfer eu gwasanaethau yn cael ei gyfrifo?

Cyfrifiadau tybiannol o'r hyn mae ar bob Cyngor angen ei wario i ddarparu lefel safonol o wasanaeth yw Asesiadau o Wariant Safonol (SSA). Mae'r rhain yn cael eu cyfrifo i adlewyrchu gwahanol gostau darparu gwasanaethau yn ardal pob awdurdod oherwydd eu gwahanol nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol. Cynhelir asesiad SSA ar y gwahanol wasanaethau mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Y term a ddefnyddir ar y gwahanol elfennau yma yw Asesiadau Wedi'u Seilio ar Ddangosyddion (IBA). Mae i bob IBA ei fformiwla ddosbarthu ei hun, er enghraifft, mae'r IBA ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd yn defnyddio niferoedd dysgwyr a mesurau amddifadedd a theneurwydd poblogaeth i ddosbarthu cyllid. Yna caiff IBAs gwasanaethau unigol yr awdurdod eu hadio at ei gilydd i roi'r cyfanswm SSA ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw.

Mae'r 'Llyfr Gwyrdd' yn cynnwys yr wybodaeth gefndirol ar gyfer cyfrifo'r Asesiadau o Wariant Safonol ar gyfer setliad refeniw blynyddol llywodraeth leol.

C4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y ddarpariaeth gyn-16 mewn ysgolion yng Nghymru?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae'n darparu cyllid yn bennaf drwy'r setliad refeniw llywodraeth leol ar ffurf Grant Cynnal Refeniw (RSG). Gan nad yw'r Grant Cynnal Refeniw wedi’i neilltuo, mae'r arian a ddyrennir i bob awdurdod ar gael i'w wario fel y gwêl yr awdurdod yn briodol, ar y gwahanol wasanaethau y mae'n gyfrifol amdanyn nhw, gan gynnwys ysgolion.

Cyllid ôl-16/cyfalaf

C5. Sut mae'r ddarpariaeth ôl-16 i ysgolion Cymru yn cael ei darparu?

Mae cyllid ar gyfer y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth ôl-16 mewn ysgolion yn cael ei ddyrannu ar ffurf grant penodol gan Lywodraeth Cymru. Ceir gwybodaeth am y ddarpariaeth ôl-16 ar y dudalen we Addysg ôl-16.

C6. Sut ydw i'n ariannu gwelliannau i adeilad ac eiddo fy ysgol?

Ceir manylion ynghylch ariannu buddsoddi cyfalaf a chynnal a chadw ysgolion ar y dudalen we Cyllid cyfalaf.

Cymariaethau rhwng Cymru a Lloegr

C7. Pam fod yr ystadegau'n dangos bod amrywiaeth rhwng maint y cyllid mae ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn ei dderbyn?

Mae'r lefelau cyllid yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr wrth edrych ar y sefyllfa fesul dysgwr. Fodd bynnag, fel mae blaenoriaethau polisi yng Nghymru a Lloegr wedi dargyfeirio ers datganoli, felly hefyd mae trefniadau ariannu ysgolion. Mae cymharu lefelau cyllido yn uniongyrchol wedi dod yn gynyddol gamarweiniol. Mae'r ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael eu paratoi'n wahanol am eu bod yn cynnwys gwahanol elfennau gwariant. Y rheswm am hyn yw bod datganoli wedi ei gwneud yn bosibl i ni ddatblygu agenda bolisi arwahanol ar gyfer addysg yng Nghymru, sydd wedi cael croeso eang. Rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail yr hyn y credwn sy'n iawn i Gymru, ac nid drwy gyfeirio at ddatblygiadau yn Lloegr, a bydd hynny'n parhau.

C8. Pam nad yw data yn cael eu cyhoeddi eleni?

Penderfynodd y Prif Ystadegydd i beidio â chyhoeddi'r Erthygl Ystadegol hwn yn sgil yr anawsterau sydd ynghlwm wrth gynhyrchu cymariaethau cadarn. Mae'r anawsterau hyn yn bodoli yn sgil newidiadau i bolisi addysg yn Lloegr a'r nifer uchel o ysgolion sy'n symud at statws academi yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad, maen nhw allan o reolaeth llywodraeth leol.

O dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, y Prif Ystadegydd sy'n penderfynu ar gynnwys yr allbynnau ystadegol a'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi, a hynny’n annibynnol ar Weinidogion.

Cyhoeddodd y Prif Ystadegydd Erthygl Ystadegol ar 26 Ionawr 2012 yn esbonio'n ofalus y rheswm nad oes modd cymharu.

Mae'r holl ohebiaeth a gafwyd ag adrannau Lloegr ar y mater hwn ar gael yn llawn ar wefan mynediad at wybodaeth Llywodraeth Cymru.

Dosbarthiad cyllid awdurdodau lleol i ysgolion

C9. Beth sy'n digwydd ar ôl i gyllid gael ei ddosbarthu i'r awdurdodau lleol?

Mae awdurdodau unigol yn gosod cyllidebau ar gyfer y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, gan gynnwys y cyllidebau ar gyfer eu hysgolion. Pennir y cyllidebau hyn yn ôl fformiwla gyllido leol. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddosbarthu 70 y cant o'r cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion unigol  yn unol â ffactorau seiliedig ar ddysgwr. Mae gan awdurdodau ddisgresiwn i ddosbarthu'r 30 y cant sy'n weddill ar sail ystod o ffactorau, fel y gallan nhw gymryd amgylchiadau ysgolion unigol i ystyriaeth.

C10. Pam ei bod yn ymddangos bod awdurdodau'n amrywio o ran cyllid fesul dysgwr, a hynny ar gyfer ysgolion sydd, ar yr wyneb, yn ymddangos yn debyg iawn i'w gilydd?

Er bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio niferoedd dysgwyr yn sail gyffredin i bennu dyraniadau cyllid, mae elfennau eraill yn amrywio o awdurdod i awdurdod ac o ysgol i ysgol. Gall fformiwla awdurdod lleol hefyd gymryd ffactorau neu feini prawf eraill i ystyriaeth, ee maint a chyflwr adeiladau a'r tir o amgylch, trethi, glanhau, prydau bwyd a llaeth, cyflogau, ysgol ar fwy nag un safle, anghenion addysgol arbennig dysgwyr, dysgwyr nad ydynt nhw'n siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf, ac yn y blaen. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffactorau ychwanegol hyn o dan reoliad 18, Atodlen 3 o'r Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

C11. A oes gan ysgolion cyfrwng Cymraeg hawl i fwy o gyllid nag ysgolion cyfrwng Saesneg?

Yn unol â'r fframwaith rheoleiddio, gall awdurdodau lleol gymryd i ystyriaeth yn eu fformiwla ariannu a yw plentyn yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ariannu ysgolion yn unol â hynny, a chymryd i ystyriaeth y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â darparu'r un gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall addysg cyfrwng Cymraeg olygu costau ychwanegol gan fod llai o adnoddau dysgu parod ar gael.

C12. Sut alla' i wybod faint mae fy llywodraeth leol yn ei wario ar ysgolion?

Yn unol ag Adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae'n ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol (AALl) baratoi Datganiad Cyllidebol bob blwyddyn ariannol.

  • Rhan 1 yn cynnwys manylion gwariant a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion unigol
  • Rhan 2 yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y fethodoleg ar gyfer pennu cyfrannau cyllideb ysgolion
  • Rhan 3 yn cynnwys gwybodaeth ynghylch cyfran gyllideb pob un o ysgolion yr awdurdod

Rhaid cyflwyno copi o'r Datganiad Cyllidebol i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir yn yr awdurdod, a threfnu i'r datganiad fod ar gael er gwybodaeth i rieni a phersonau eraill, ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl.

C13. Sut fedra' i fod yn siŵr bod y dyraniad cyllid ar gyfer fy ysgol i yn gywir?

Defnyddir fformiwla gyllido wedi'i chytuno'n lleol ar gyfer pennu cyllidebau ysgolion unigol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cyllideb eich ysgol neu'r fformiwla gyllido leol, yna dylech gysylltu â'ch awdurdod.

C14. Beth sy'n digwydd i gyllideb ysgol os yw niferoedd y dysgwyr yn gostwng?

Gan fod 70 y cant o gyllideb ysgol unigol yn seiliedig ar niferoedd dysgwyr, bydd awdurdodau lleol yn gostwng cyllidebau ysgolion unigol yn unol â hynny.

C15. Beth sy'n digwydd i'r staff os bydd cyllideb yr ysgol yn gostwng?

Rhaid i gyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am reoli cyllideb ysgolion wneud rhai penderfyniadau anodd, a all gynnwys diswyddiadau, er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, er budd pob dysgwyr. Mae corff llywodraethu ysgol, mewn ymgynghoriad â'r awdurdod lleol yn penderfynu ynghylch lefelau staffio mewn ysgolion unigol. Fel cyflogwyr, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb dros staff ysgolion, a bydd y mwyafrif yn ystyried opsiynau o ran adleoli staff.

C16. Ble fedra’ i gael gwybodaeth am ba gyllid mae awdurdodau lleol ac ysgolion eraill yn ei dderbyn?

Mae adran Ystadegau Ysgolion y Gyfarwyddiaeth Ystadegol yn casglu a dadansoddi ystod eang o ddata ar ysgolion yng Nghymru. Ar y tudalennau hyn cewch ddolenni hwylus at wybodaeth a chyhoeddiadau. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen we 'Ystadegau ysgolion'.

Gwariant yn erbyn asesiad wedi'i seilio ar ddangosyddion (IBA)

C17. Pam fod fy awdurdod lleol i wedi dewis gwario llai ar addysg na’u Hasesiadau Wedi'u Seilio ar Ddangosyddion (IBA)?

Nid targed gwariant yw IBA yr awdurdod, ac mae pob awdurdod lleol yn pennu ei flaenoriaethau gwariant ei hun ar sail ei ddyraniad cyllid cyffredinol a'r hyn y gall ei godi mewn treth gyngor.

Rheoliadau cyllido ysgolion (Cymru) 2010

C18. Beth yw'r Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 newydd?

Rheoliadau newydd yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru sefydlu cyllidebau cyllid refeniw ysgolion am dair blynedd ariannol yn hytrach nag un. Daeth y rheoliadau i rym ar 1 Medi 2010, ar gyfer blynyddoedd ariannol 2011-12 ymlaen. Maent nhw'n cyfuno ac yn disodli'r rheoliadau cyllido ysgolion canlynol a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

  • Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003
  • Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004
  • Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004.

Mae'r Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 ar gael ar y wefan Deddfwriaeth y DU.

C19. A yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r darpariaethau blaenorol?

Ydyn. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn cyflwyno'r newidiadau arwyddocaol canlynol

  • Wrth ddyrannu cyllidebau i ysgolion, bydd awdurdodau'n darparu cyllideb flynyddol i ysgolion ynghyd â rhagolygon cyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol
  • Mae'r dyddiad erbyn yr hyn mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch eu Cyllideb Ysgolion arfaethedig wedi newid o 31 Ionawr i 14 Chwefror
  • Rhoi'r gallu i awdurdodau i gymryd rhai camau penodol wrth i weddillion ariannol ysgolion gyrraedd lefelau penodol. Os yw'r gweddillion yn £50,000 neu fwy mewn ysgol gynradd, £100,000 neu fwy mewn ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, bydd modd i awdurdodau gyfarwyddo ysgolion i wario gweddillion. Os nad yw'r corff llywodraethu yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd, gellir adfachu’r swm i Gronfa Ysgolion yr awdurdod
  • Caniatáu i fforymau cyllideb ysgolion gymeradwyo diwygiadau i gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer ariannu ysgolion yn hytrach na bod angen cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

C20. Pam fod Llywodraeth y Cynulliad wedi pennu £50,000 i ysgolion cynradd a £100,000 i ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig fel y lefel ar yr hyn y bydd awdurdodau yn cyfarwyddo ysgolion i wario arian sy'n weddill neu’i adfachu?

Yn fras, mae'r lefelau hyn yn cwmpasu cost 1 neu 2 o staff dysgu amser llawn ar frig y prif gyfraddau cyflog. Nid targedau yw'r rhain, ond pwyntiau sbarduno camau gweithredu.

C21. Beth os yw'r Cyngor am adfachu'r gyllideb sydd gennyf dros ben?

Nid targedau yw'r rhain, ond pwyntiau sbarduno camau gweithredu. Ni ddylid ystyried gwaith ar arian dros ben yn fater ar gyfer diwedd y flwyddyn yn unig. Yn hytrach, dylai ysgolion a'u hawdurdod weithio gyda'i gilydd gydol y flwyddyn; dylid ei integreiddio â chynllunio cyllideb aml-flwyddyn a monitro yn ystod y flwyddyn. Dylai ysgolion â chyllid dros ben sydd eisoes uwchlaw'r trothwy fod yn destun monitro parhaus er mwyn sicrhau cyflwyno cynlluniau cymeradwy i wario eu gweddillion, neu fel arall bydd yr arian dros ben yn cael ei adfachu.

C22. A oes modd i fy ysgol adeiladu cyllideb arian dros ben i'w wario ar brosiect penodol?

Os oes gan ysgol gynllun i gadw arian uwchlaw'r cyfyngiad ariannol, dylid caniatáu hynny. Ond rhaid i'r cynlluniau hynny, o'u craffu, fod yn rhai da. Rhaid i'r ysgol gyflwyno tystiolaeth i ddangos bod arian wedi'i osod o'r neilltu at ddibenion penodol, yn cael ei wario o fewn amserlen a ddiffiniwyd, gyda phwynt terfyn penodol, ac wedi'i gymeradwyo'n briodol gan lywodraethwyr.

C23. Os ydw i'n disgwyl i niferoedd  dysgwyr ostwng y flwyddyn nesaf, a oes modd i mi ddefnyddio'r arian dros ben i ariannu'r diffyg?

Ni ddylid defnyddio gweddillion dros ben er mwyn gohirio penderfyniadau anodd yn ymwneud â newidiadau staffio, er y gallai hynny fod yn ddilys er mwyn lleihau effaith gostyngiad dros dro mewn niferoedd disgyblion neu i ariannu'r costau am ran o'r flwyddyn, o beidio â rhoi gostyngiadau staff ar waith tan dymor yr hydref.

C24. At ba ddibenion bydd gweddillion ariannol a gafodd eu hadfachu gan yr awdurdod lleol yn cael eu defnyddio?

Rhaid cadw arian a gafodd ei adfachu o fewn cyllideb ysgolion yr awdurdod, a'i ailgylchu at ddibenion addysg.

Cynlluniau ar gyfer ariannu ysgolion

C25. Beth yw 'Cynllun ariannu ysgolion.'

Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu 'Cynllun Ariannu Ysgolion' yn amlinellu'r berthynas ariannol rhwng yr awdurdod a'r ysgolion o fewn ei ardal. Mae’n cynnwys gofynion yn ymwneud â rheolaeth ariannol a materion cysylltiedig, a gall nodi lle mae cyfrifoldebau am faterion penodol yn gorwedd.

Dylai'r cynllun nodi cyfrifoldebau'r pennaeth a'r corff llywodraethu o safbwynt y cynllun cyllideb blynyddol. Rhaid i'r cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf hwn ar gyfer pob blwyddyn ariannol fod wedi'i gymeradwyo gan y corff llywodraethu. Gweler yr arweiniad atodol ar gynlluniau ar gyfer ariannu ysgolion yn yr adran dolenni perthnasol ar frig y dudalen hon.

C26. Beth os yw'r awdurdod am adolygu ei 'Gynllun ariannu ysgolion'?

Amlinellir y rheolaethau ariannol ar gyfer dirprwyo yn y cynllun ariannu ysgolion a wnaed gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion (SSFA) (Dolen allanol) a Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (Dolen allanol). Rhaid i unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun gael eu cymeradwyo gan y fforwm ysgolion. Gall y fforwm ysgolion gymeradwyo'r cynigion fel y maen nhw, eu cymeradwyo’n amodol ar addasiadau, neu wrthod cymeradwyo'r cynigion. Os bydd y fforwm ysgolion yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, gallan nhw bennu'r dyddiad y mae’r cynllun diwygiedig i ddod i rym. Os bydd y fforwm ysgolion yn gwrthod cymeradwyo'r cynigion, neu'n eu cymeradwyo'n amodol ar addasiadau nad ydyn nhw'n dderbyniol gan yr awdurdod lleol, gall yr awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyo cynigion o'r fath.

Cyllid I ysgolion unigol

C27. Sut mae awdurdod lleol yn dirprwyo cyllid i bennaeth?

Mae'n agored i'r awdurdod awgrymu i ysgolion yr hyn allai fod yn lefel ddymunol o ddirprwyo i benaethiaid, ond rhaid i 'Gynllun ariannu ysgolion' yr awdurdod beidio â cheisio gosod lefel neu lefelau o'r fath. Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ystyried y graddau i'r hyn mae'n dymuno dirprwyo ei bwerau ariannol i'r pennaeth, ac i gofnodi ei benderfyniad (ac unrhyw ddiwygiadau) yng nghofnodion y corff llywodraethu.  

C28. Sut allaf i wneud yn siŵr fy mod yn prynu cyflenwadau i'r ysgol am y pris gorau posibl?

Mae adain Gwerth Cymru o Lywodraeth y Cymru yn gyfrifol am sicrhau gwell gwerth am arian mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ei rôl yw cefnogi cyrff sector cyhoeddus i wneud i'r bunt Gymreig fynd ymhellach. Mae hyn yn cynnwys defnyddio pwerau prynu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i sefydlu gwell trefniadau â chyflenwyr. Ceir manylion ar wefan Gwerth Cymru.

C29. Pwy sy'n cadw'r incwm a ddaw mewn ffioedd a thaliadau?

Mae gan yr ysgol hawl i gadw incwm a ddaw mewn ffioedd a thaliadau, ac eithrio lle darperir gwasanaeth gan yr ALl o gronfeydd a gedwir yn ganolog. Fodd bynnag, dylai fod yn ofynnol i ysgolion dalu sylw i unrhyw ddatganiadau polisi gan yr ALl ar godi ffioedd.

C30. Beth am incwm o weithgareddau codi arian a gwerthiant asedau?

Mae gan ysgolion hawl i gadw incwm o weithgareddau codi arian, a gallant gadw'r enillion yn sgil gwerthu asedau, ac eithrio mewn achosion lle prynwyd yr ased gydag arian heb ei ddirprwyo (ac os felly, yr ALl ddylai benderfynu a ddylai'r ysgol gadw'r enillion), neu os yw'r ased dan sylw ar ffurf tir neu adeiladau yn rhan o safle’r ysgol ac ym mherchnogaeth yr ALl.

C31. A oes modd i'r awdurdod lleol godi am eitemau yn erbyn cyllideb yr ysgol heb gydsyniad y corff llywodraethu?

Ceir rhestr o amgylchiadau lle gellir codi ffioedd a thaliadau yng 'Nghynllun ariannu ysgolion' yr awdurdod. Rhaid i'r cynllun gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r ALl godi yn erbyn cyfran gyllideb yr ysgol heb gydsyniad y corff llywodraethu, ond dim ond mewn amgylchiadau a ganiateir yn benodol gan y cynllun, a rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori ag ysgolion ynghylch y bwriad i godi tâl, a hysbysu ysgolion pan fydd wedi gwneud hynny. Gall cynlluniau hefyd ddarparu ar gyfer gweithdrefn anghydfodau ar gyfer ffioedd o'r fath.

C32. Sut ddylwn i adrodd am unrhyw gwynion sydd gennyf ynghylch rheolaeth ariannol yn fy ysgol?

Rhaid i 'Gynllun ariannu ysgolion' yr awdurdod gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ALl amlinellu ei weithdrefn ar sail yr hyn y gall y llywodraethwyr neu rai sy'n gweithio mewn ysgol gwyno ynghylch camreolaeth.

Polisi codi tâl ysgolion

C33. Beth yw polisi codi tâl a pheidio â chodi tâl?

Mae'n ofyniad cyfreithiol ar bob ysgol i sefydlu Polisi Codi Tâl a Pheidio â Chodi Tâl, yn darparu manylion yr amgylchiadau lle bydd ysgol yn codi tâl ar rieni, a'r amgylchiadau lle gall ofyn am gyfraniadau gwirfoddol. Dylai'r polisi hefyd egluro unrhyw amgylchiadau lle bydd ysgol yn hepgor codi tâl, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.  

C34. A ellir codi tâl am addysgu plant mewn ysgol a gynhelir?

Na. Mewn ysgolion yng Nghymru ac eithrio ysgolion annibynnol, mae'r addysg a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn ystod oriau’r ysgol am ddim. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau ac offer, a chludiant a ddarperir yn ystod oriau ysgol gan yr awdurdod lleol neu gan yr ysgol i gludo plant rhwng yr ysgol a gweithgaredd.

C35. A oes amgylchiadau lle gall yr ysgol godi tâl?

Oes. Gellir codi tâl am 'weithgareddau ychwanegol dewisol'. Digwyddiadau yw'r rhain:

  • sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n bennaf tu allan i oriau ysgol
  • nad ydyn nhw'n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol
  • nad ydyn nhw'n rhan o faes llafur ar gyfer Arholiad Cyhoeddus Penodedig
  • nid o fewn cwmpas y gofynion statudol mewn perthynas ag addysg grefyddol.

C36. A oes gan fy ysgol hawl i ofyn i rieni/gorgalwyr am gyfraniad gwirfoddol?

Ni chaiff ysgolion godi tâl am weithgareddau sy’n digwydd yn ystod oriau ysgol – er y gallan nhw ofyn am gyfraniadau gwirfoddol. Wrth ofyn am gyfraniadau gwirfoddol, rhaid rhoi gwybod i rieni/gorgalwyr nad ydyn nhw'n rhwymedig i gyfrannu ac na fydd plant i rieni/gorgalwyr nad ydyn nhw'n cyfrannu yn cael eu trin mewn unrhyw ffordd wahanol i blant i rieni sy'n cyfrannu. Mae’n hanfodol trin pob dysgwr yn gyfartal ac nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael allan o weithgaredd am fod ei rieni/gorgalwyr yn methu neu'n gwrthod cyfrannu.

C37. Rwy'n cael trafferth talu am daith breswyl fy mhlentyn, a oes unrhyw help ar gael?

Oes, os yw'r rhieni'n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
    yn derbyn unrhyw fudd-dal neu lwfans arall, neu â hawl i unrhyw gredyd treth o dan Ddeddf Credydau Treth 2002 (Dolen allanol) neu elfen o gredyd treth o'r fath, a bennir drwy reoliadau o bryd i'w gilydd am unrhyw gyfnod cyfan neu rannol o'r amser a dreuliwyd ar y daith. Yr hyn sydd wedi'i bennu ar hyn o bryd yw
  • Cymorth o dan Ran 6 o Ddeddf mewnfudo a Lloches 1999 (Dolen allanol)
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod na dderbynnir Credyd Treth gwaith yn ogystal, ac nad yw incwm y teulu (fel yr aseswyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi) yn fwy na £16,190 (hy plant sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar incwm
  • Elfen warant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Derbyn Credyd Cynhwysol

Maen nhw wedi'u heithrio rhag talu costau bwyd a llety ar deithiau preswyl. Bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch ysgol.

C38. A oes cymhorthdal ar gael gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau teithio neu dripiau ysgol?

Does dim cronfeydd canolog ar gyfer y dibenion hyn. Gall unigolion geisio cymorth yn lleol drwy nawdd gan fusnesau lleol neu gyrff elusennol. Gall dysgwyr hefyd gasglu arian tuag at weithgareddau o'r fath, yn unigol a/neu ar y cyd, drwy Gymdeithasau rhieni/gofalwyr ac Athrawon.

C39. Ble gallaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn y gall ac na all ysgol godi tâl amdano?

Mae'n ofyniad cyfreithiol ar bob ysgol i sefydlu Polisi Codi Tâl a Pheidio â Chodi Tâl. Gofynnwch i’r ysgol am gael gweld eu polisi. Dylai pob ysgol yn ôl y gyfraith gael polisi codi tâl a pholisi peidio â chodi tâl. Gofynnwch i'ch ysgol i weld eu polisi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu Canllawiau anstatudol i Gyrff Llywodraethu ar Godi Tâl am Weithgareddau Ysgol.

C40. A oes raid i mi dalu am wersi cerdd fy mhlentyn?

Er bod y gyfraith yn datgan bod yn rhaid i bob addysg a ddarperir yn ystod oriau ysgol fod am ddim, mae gwersi cerdd yn eithriad i'r rheol hon. Gall ysgolion godi tâl am wersi offerynnau cerdd a roddir i ddysgwyr, neu i grŵp o nid mwy na phedwar dysgwr, os nad yw'r dysgu’n rhan hanfodol, naill ai o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu faes llafur arholiad cyhoeddus y mae'r dysgwr yn ei ddilyn.

Hoffem glywed oddi wrthych os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn wella ein tudalen we neu os ydych yn cael anhawster i agor unrhyw rai o'r dolenni.

Hefyd, os hoffech atebion i unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni ar SchoolFundingMailbox@llyw.cymru 

Byddwn yn ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth o fewn 15 diwrnod gwaith.