Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi cymeradwyo cyllid o hyd at £321,289 i Gyngor ar Bopeth Cymru er mwyn iddynt allu parhau i gynnig cyngor ariannol wyneb yn wyneb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Carl Sargeant wrth gyhoeddi'r grant:

"Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn darparu cyngor gwerthfawr ar ddyledion a materion ariannol i nifer o bobl ar draws Cymru. Heb gymorth ariannol, ni fyddai’r gwasanaeth hwn yn gallu parhau, sy’n golygu na fyddai tua 400 o bobl yn cael help wyneb yn wyneb bob mis. 

“Rwyf am sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn parhau fel bod y bobl fwyaf agored i niwed yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.”

Ychwanegodd Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:

"Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi deall ei bod yn bwysig parhau i ddarparu cyngor ariannol wyneb yn wyneb er mwyn helpu pobl i wneud y mwyaf o'r arian sydd ganddynt a chynllunio ar gyfer y dyfodol. 

"O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, rydym yn gallu cynnig cymorth am ddim i helpu pobl agored i niwed ar draws Cymru ddeall a rheoli eu harian yn well. Gall y cyngor ariannol diduedd hwn, sydd am ddim, eu helpu i deimlo'n fwy hyderus, trefnu eu harian, deall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau sy'n iawn iddyn nhw.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n darparu nifer o wasanaethau hanfodol i'w cymunedau. 

Yn ystod ymweliad â swyddfa Conwy Cyngor ar Bopeth Cymru heddiw, dywedodd Carl Sargeant:

"Ar adegau anodd, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl sydd angen help gydag amryw o faterion megis tai, lles a dyledion. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sawl sefydliad arall fel Shelter a Relate, i ddarparu amrywiaeth o gyngor o dan un to."