Neidio i'r prif gynnwy
Teitl y cynnig:

Dosbarthu'r cyllid ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru yn 2021-22

Swyddog(ion) sy’n cwblhau’r Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw’r tîm):

Geoff Hicks (Yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau)

Helen Scaife (Yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau)

Adran: Yr Adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
Pennaeth yr Is-adran/SRO (enw): Alan Woods
Ysgrifennydd y Cabinet / Y Weinidog sy'n gyfrifol: Y Gweinidog Addysg
Dyddiad dechrau: Ionawr 2021

 

1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc.

Mae dyrannu'r Llinell Gwariant yn y Gyllideb ar gyfer darpariaeth Addysg Bellach wedi'i dargedu'n benodol at gyflawni'r ddyletswydd statudol o dan adran 31 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y ddarperir cyfleusterau priodol ar gyfer addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas i ofynion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed. Mae'r cyfleusterau'n briodol os ydynt yn ddigonol o ran maint ac yn ddigonol o ran ansawdd i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion.

Mae hyn yn cyd-fynd ag Erthyglau 28 a 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) sy'n ymwneud â'r Hawl i Addysg. Yn ogystal, mae dyraniad y cyllid yn ystyried ac yn targedu materion penodol sy'n effeithio ar bobl ifanc. Yn y dyraniadau:

  • Ceir fformiwla benodol sy'n dyrannu cyllid i gefnogi 'ymgodiad amddifadedd' a ddarperir yn benodol i alluogi darparwyr i dargedu darpariaeth at ddysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig a'u cefnogi er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan ac yn cyflawni;
  • Mae'r ymgodiad teneurwydd poblogaeth yn targedu'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig i sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu ledled Cymru.

Mae ymrwymiad i ddarparu cyllid atodol i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'i gynnwys yn y dyraniad cyllid. Mae cyfanswm y cwantwm hefyd wedi cynyddu 7.1% o gymharu â dyraniad 2020-21.

Yn y cyllid ceir cronfa o £2m i gefnogi'n uniongyrchol y ddarpariaeth o wasanaethau Iechyd Meddwl i ddysgwyr a staff yn y sector.

2. Esboniwch sut y mae’r cynnig yn debygol o gael effaith ar hawliau plant.

Mae darparu addysg a hyfforddiant ôl-16 yn effeithio ar ddysgwyr o bob oed, ac felly mae'r effeithiau'n ymestyn llawer pellach na rhai plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cefnogi darpariaeth amser llawn ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed ac felly mae'n cefnogi dibenion CCUHP ac yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Erthyglau canlynol:

Erthygl 3 (lles y plentyn)

Rhaid i les y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a gweithred sy’n effeithio ar blant.

Mae amgylchiadau ansicr ac ansefydlog y cyfnod clo a phandemig y coronafeirws wedi creu cryn anawsterau i bob dysgwr. Bydd darparu cyllid i alluogi darparwyr i barhau i gynnig darpariaeth yn rhoi sefydlogrwydd a’r strwythur i bobl ifanc ac yn sicrhau eu bod yn gallu parhau â’u dysgu.

Erthygl 12 (parchu barn y plentyn)

Mae gan bob plentyn hawl i leisio’i farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, ac i bobl ystyried ei farn o ddifrif. Mae’r hawl hon yn berthnasol bob amser, er enghraifft yn ystod gweithdrefnau mewnfudo, penderfyniadau o ran lle i fyw neu fywyd dyddiol y plentyn yn y cartref.

Mae dysgwyr wedi bod yn ymgysylltu’n uniongyrchol wrth roi tystiolaeth a fydd yn llywio’r broses o wneud polisi yn y dyfodol o ganlyniad i effeithiau Covid-19. Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd er mwyn eu cyhoeddi yn y dyfodol agos, a byddant yn llywio’r broses barhaus o ddatblygu polisi mewn ymateb i’r pandemig.

Erthygl 28 (hawl i addysg)

Mae gan bob plentyn hawl i addysg. Rhaid i addysg gynradd fod yn rhad ac am ddim a rhaid i wahanol ffurfiau ar addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Rhaid i ddisgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas plant a’u hawliau. Rhaid i wledydd cyfoethocach helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Mae gan bobl ifanc hawl i addysg ac mae ein dyletswydd statudol yn sicrhau ein bod yn darparu hyn. Mae’r cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gyflawni’r ddyletswydd hon.

Erthygl 29 (nodau addysg)

Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, talentau a galluoedd pob plentyn i'r eithaf. Rhaid iddi annog parch y plentyn at hawliau dynol, yn ogystal â pharch at ei rieni, ei ddiwylliant ei hun a ddiwylliannau eraill, a'r amgylchedd.

Mae'r cyllid hwn yn galluogi darparwyr ôl-16 i ddarparu ystod o wahanol addysg a hyfforddiant sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu.