Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi cyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf gan yr amodau eithriadol diweddar yn y farchnad o ganlyniad i COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y sector llaeth wedi teimlo effaith y pandemig byd-eang ar unwaith, o ganlyniad i gau y sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch.

I gefnogi’r sector yn ystod y cyfnodau heriol hwn, mae’r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac wedi hynny ym mis Mai hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70% o’r incwm y maent wedi ei golli. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd. 
Bydd rhagor o fanylion am y cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Mae’n dilyn cyfres o gyhoeddiadau wedi’u hanelu at gefnogi’r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys:

  • ymgyrch newydd ar gyfer cwsmeriaid, o dan arweiniad AHDB, i gynyddu y galw am laeth gan ddefnyddwyr 3%
  • llacio y cyfreithiau cystadlu dros dro i ganiatâu rhagor o gydweithio fel y gall y sector, gan gynnwys ffermwyr a phroseswyr llaeth, gydweithio’n agosach i ddatrys y gwahaniaeth rhwng y cyflenwad a’r galw, ac
  • agor ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd yr UE a’r cymorth preifat ar gyfer storio llaeth sgim, menyn a chaws.

Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd y Gweinidog:

“Mae cau y sector gwasanaethau bwyd wedi cael effaith sylweddol ar unwaith ar ein sector llaeth a phrisiau y farchnad.

“Bydd y mesurau sydd wedi’u cyflwyno hyd yma yn help i roi rhywfaint o sefydlogrwydd i’r sector llaeth, ond rwy’n cydnabod bod angen cefnogi’r ffermydd hynny sydd wedi dioddef waethaf mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

“Dwi felly yn falch o gadarnhau y bydd ffermwyr llaeth yng Nghymru yn gymwys am gymorth i helpu iddynt addasu i’r amodau eithriadol yn y farchnad, ac i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb iddo gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.  Bydd rhagor o fanylion y cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan ond roeddwn am ymrwymo heddiw i gefnogi’r grŵp craidd yma o ffermwyr llaeth gyda thaliad i’w osod yn erbyn rhai o’r effeithiau ariannol y maent wedi’u gweld.

“Byddwn yn parhau i weithio’n galed â’r sector i helpu iddynt fynd i’r afael â’r problemau y maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Trwy gydweithio gallwn sicrhau dyfodol optimistaidd ar gyfer y sector llaeth a’i chadwyn gyflenwi yng Nghymru.”