Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Cadeirydd, Umar Hussain MBE

Helo a chroeso i ail Gylchlythyr Ystadau Cymru.

Dyma gyfle i bwysleisio a dangos y gwaith sydd wedi mynd rhagddo yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Bydd y cylchlythyr hwn yn hoelio sylw ar:

  • Y gynhadledd ar-lein sydd ar ddod ar 3 Rhagfyr;
  • Gwobrau Ystadau Cymru;
  • Cyfraniadau diddorol gan randdeiliaid ar ymatebion i Covid-19, gweithio o bell a mwy…

Y Gynhadledd

Bydd ail Gynhadledd Ystadau Cymru yn cael ei chynnal ar 3 Rhagfyr 2020, a chaiff ei chynnal ar-lein. Bydd gwahoddiadau yn cael eu dosbarthu maes o law. Oherwydd y pandemig presennol, teimlai’r Bwrdd fod ganddynt rwymedigaeth i ailffocysu amcanion a chynllun gwaith Ystadau Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd yn ehangach ac i’r rheini sy’n gyfrifol am asedau’r

Mae’r agenda i’w gweld llyw.cymru/ystadau-cymru

Gwobrau Ystadau Cymru

Lansiwyd y gwobrau ar 4 Medi 2020 gan Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Mae’r gwobrau yn dathlu arferion gorau o ran mynd ati’n weithredol i reoli ystâd trydydd sector Cymru. Mae pum categori i’r gwobrau:

  • Creu twf economaidd
  • Dangos cynaliadwyedd amgylcheddol
  • Darparu gwasanaethau mwy integredig
  • Lleihau costau rhedeg yr ystadau
  • Sicrhau’r gwerth gorau am arian

Bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei chynnal brynhawn y gynhadledd ynghyd ag anerchiad gan y Gweinidog.

Cadernid y Sector Cyhoeddus: COVID-19

Mae rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus wedi dechrau datblygu strategaethau ynghylch eiddo, polisi a thechnoleg i helpu eu staff i weithio o bell ac i weithio’n glyfar. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Adolygiadau a gynhelir gan sefydliadau’r GIG a llywodraeth leol i ddeall patrymau gwaith sydd fwyaf addas i staff ar ôl COVID-19. Caiff dadansoddiad strategol o iechyd a llesiant staff ei ystyried yn un o’r elfennau allweddol sy’n sbarduno newidiadau i batrymau o ran gwaith a gweithle. Adolygir hefyd sut y gellir defnyddio lleoedd yn well, anghenion diwygiedig o ran gweithle a chapasiti technoleg ddigidol i hwyluso mwy o hyblygrwydd yn y gweithlu;
  • Mae tystiolaeth bod y sector cyhoeddus yn gweithio i greu hybiau a fydd yn gallu bod yn gartref i amrywiaeth o wasanaethau llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog, i greu gweithle mwy hyblyg a chydweithredol. Bydd peilotau o’r hybiau hyn sydd wedi’u cynllunio gan rai awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y dyfodol gyda chanfyddiadau yn cael eu bwydo i fwrdd Ystadau Cymru (YC). Mae angen gwneud mwy o ymchwil ynghylch sut y byddai’r hybiau hyn yn gweithio a pha wasanaethau cyhoeddus fyddai’n elwa arnynt;
  • Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau ymchwil fel rhan o’r prosiect cydweithredu trawswladol gyda chwe gwlad Ewropeaidd arall, sy’n edrych ar ddatblygiad a manteision cydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae ymchwil yn cael ei gwneud ar hyn o bryd i ganfod arferion teithio pobl cyn COVID-19 ac a fyddai gwell ganddynt weithio mewn lleoliad cydweithio gwledig yn y dyfodol;
  • Yn dilyn trafodaethau a gynhelir ynghylch yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar wasanaethau ystadau, mae pob cadeirydd rhanbarthol Ystadau Cymru wedi cytuno i hyrwyddo agenda cydweithredol YC

Cyhoeddiadau newydd Llywodraeth Cymru

Bydd tri chanllaw yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, sef:

  • Protocol Cyd-leoli Ystadau a Throsglwyddo Tir;
  • Caffael – Canllawiau ar Gaffael Asedau Eiddo gan Lywodraeth Cymru; a
  • Gwaredu – Adnabod a Gwaredu Tir ac Adeiladau Di-graidd Dros Ben.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Datganiad Ysgrifenedig

Sefydlu Gweithio o Bell: Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth 14 Medi

Rheoli Effeithiau Covid

Mae’r Sefydliad Rheoli Gweithleoedd a Chyfleusterau wedi cyhoeddi canllawiau ar reoli effeithiau Covid-19 a dychwelyd i’r gwaith.

Mae cyfres o weminarau rheolaidd o’r enw “Navigating turbulent times” hefyd ar gael gydag arbenigwyr y maes diwydiant sy’n mynd i’r afael â heriau newydd Covid-19 a sut y mae tueddiadau newydd yn dod i’r amlwg yn y gweithle.

Gwell i’r Gwenyn: Gwell i’r Bobl

Mae Adnoddau Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar reoli lleoedd ar gyfer peillwyr – sy’n rhan bwysig o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar fioamrywiaeth.

Mae’n ymdrin â’r egwyddorion allweddol ar gyfer helpu peillwyr a rheoli tiriogaethau gwahanol.

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith Ystadau Cymru a hoffech ddarparu deunydd ar gyfer y cylchlythyr neu fod gennych gwestiwn ynghylch y gynhadledd sydd ar ddod, anfonwch e-bost i ystadaucymru@gov.wales a bydd y tîm yn hapus i’ch helpu.