Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Cadeirydd, Umar Hussain MBE

Croeso i’n cylchlythyr cyntaf gan Ystadau Cymru a’i genhadaeth i wneud y defnydd gorau o’r ystad gyhoeddus yng Nghymru.

Ar ôl i raglen waith Ystadau Cymru gael ei lansio’n llwyddiannus yn y gynhadledd ym mis Hydref 2019, mae brwdfrydedd pob un a oedd yn bresennol i ymgysylltu a rhannu’r cyfleoedd y gall cydweithredu ar reoli’r ystad eu cynnig, yn galonogol iawn. Mae Cymru yn ymrwymedig i gyflawni saith nod llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, datgarboneiddio a’r cynllun twf amgylcheddol a gweithio tuag at sicrhau ffyniant i bawb a thrwy gyfuno a rhannu arbenigedd gallwn sicrhau bod gennym y seilwaith cywir i gefnogi hyn.

Dim ond un o’r llwyfannau i ddangos gwaith rheolwyr eiddo o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru yw’r cylchlythyr hwn ac mae hefyd yn darparu adroddiad cynnydd rheolaidd ar y pecynnau cymorth a’r fframweithiau a gaiff eu llunio gan Fwrdd Ystadau Cymru i hwyluso a meithrin mwy o gydweithredu a sicrhau mwy o werth am arian i’r cyhoedd yng Nghymru. Byddem yn croesawu unrhyw adborth a’ch cymorth er mwyn sicrhau y caiff y cylchlythyr hwn ei rannu mor eang â phosibl ymhlith y staff sy’n gweithio ym mhob rhan o ystad y sector cyhoeddus a sicrhau y gwneir defnydd effeithiol o’n gwefan, a fydd yn storfa 24/7 o arferion da a phecynnau cymorth defnyddiol a ddatblygwyd ar eich cyfer gan uwch-reolwyr ystadau yng Nghymru.

Os hoffech gyflwyno deunydd i’w gyhoeddi yn y dyfodol, cysylltwch â Luke Brennan yn YstadauCymru@llyw.cymru

Cynhadledd Ystadau Cymru 2019

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf Ystadau Cymru ar 3 Hydref 2019. Roedd y digwyddiad yn gyfle i godi proffil y gydweithrediaeth a oedd wedi’i hail-lansio a dathlu cyflawniadau a llwyddiannau yng nghyd-destun gwneud y defnydd gorau o’r ystad gyhoeddus. Gan edrych o safbwynt pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyda chydweithredu fel thema ganolog y diwrnod, ystyriodd y digwyddiad sut y gallai arloesedd ddarparu atebion gwerthfawr seiliedig ar asedau er budd cymunedau lleol.

Rhoddodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans AS, yr anerchiad agoriadol, gan herio gwasanaethau cyhoeddus i ddangos arweiniad ym maes cydweithredu fel ffordd o sicrhau newid mawr. Un o negeseuon allweddol y Gweinidog i’r gynulleidfa oedd y dylid ystyried bod cydweithredu yn rhan graidd o’r ‘swydd o ddydd i ddydd’, yn hytrach nag opsiwn ychwanegol. Hefyd, lansiwyd y Pecyn Cymorth Cydweithredol a’r Canllawiau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, sy’n darparu canllawiau ymarferol ac astudiaethau achos enghreifftiol, yn ffurfiol gan y Gweinidog. Ceir manylion pellach a dolenni i’r canllawiau hyn yn ddiweddarach yn y cylchlythyr hwn.

Darparodd Cadeirydd Ystadau Cymru, Umar Hussain, ei fyfyrdodau o’r flwyddyn ddiwethaf. Roedd hyn yn cynnwys nodi ei uchelgais ar gyfer Ystadau Cymru. Cyhoeddodd Umar hefyd ei fod yn bwriadu lansio Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn 2020. Bydd y gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu arferion da. Bydd Ystadau Cymru yn dechrau derbyn enwebiadau yn y Gwanwyn. Bydd y gwaith o wireddu’r weledigaeth ar gyfer Ystadau Cymru yn cael ei gyflawni drwy chwe grŵp rhanbarthol ledled Cymru, y cyflwynwyd tri ohonynt yn y gynhadledd. Clywodd y gynhadledd am y cynnydd a’r cyflawniadau hyd yma gan ranbarth Caerdydd a’r Fro, rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru a rhanbarth Gogledd Cymru.

Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau am fwy o gydweithredu rhwng partneriaid a rhwydweithiau newydd yn cael eu ffurfio; cynnydd o ran mapio asedau’r sector cyhoeddus sy’n darparu ar gyfer cynllunio arbedion effeithlonrwydd a gwelliannau drwy wneud gwell defnydd o ystad y sector cyhoeddus.

Cynigiodd sesiynau gweithdy gyfleoedd pellach i ddysgu am feysydd yn fwy manwl. Ymdriniodd y rhain ag amrywiaeth eang o bynciau o Sgiliau a hyfforddiant i Gydweithredu golau glas, Bioamrywiaeth, a’r Pecyn Cymorth ar gyfer Mapio Asedau Strategol. Rhoddodd pob gweithdy gyfle i’r cyfranogwyr ddysgu mwy am bwnc, rhannu arferion da, ystyried y rhwystrau i newid a chyfrannu eu syniadau.

Dechreuodd y prynhawn gyda chyflwyniad ysbrydoledig ar yr Economi Gylchol gan Sally Attwood o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Economi Gylchol yn ceisio sicrhau bod mwy o werth cymdeithasol yn deillio o arian cyhoeddus. Wrth wneud hynny, caiff amgylcheddau gwaith mwy ystwyth, ysbrydoledig, cydweithredol ac iach eu creu. Mae’n ein herio i ddefnyddio ein dychymyg, yn lle prosesau, i ddatrys problemau sy’n ymwneud ag ystadau, gan feithrin gwydnwch yn y gymuned lle maent wedi’u lleoli ar yr un pryd. Ceir manylion pellach am yr Economi Gylchol yn y cylchlythyr hefyd, felly darllenwch ymlaen i ddysgu mwy.

Ar y cyfan, roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus a ddenodd nifer da o gynadleddwyr ac a ysgogodd syniadaeth newydd mewn amrywiaeth o feysydd. I grynhoi, nodir isod rai o’r negeseuon ‘i fynd adref â nhw’ ar gyfer y diwrnod:

  • Mae angen inni newid diwylliant ac ymddygiadau
  • Mae cydweithredu yn rhan o’r ‘swydd o ddydd i ddydd’, yn hytrach na dewis
  • Mae digwyddiadau fel yr un hwn yn gyfle i ddangos beth sy’n digwydd ar lawr gwlad
  • Gallwn wneud mwy i ddathlu cynnydd a llwyddiant.

Ac i’r perwyl hwnnw, rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn ein cynhadledd nesaf yn yr Hydref. Rhoddir manylion yn y rhifyn nesaf o gylchlythyr Ystadau Cymru.

Mabwysiadu dull cylchol o weithredu: un gadair ar y tro

Mae deall y cyfleoedd cadarnhaol a’r manteision y mae’r economi gylchol yn eu cynnig i’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn bwnc trafod ar hyn o bryd ac mae Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r ymatebion i’w hymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Mae hyn yn cyd-fynd â diddordeb Ystadau Cymru mewn cylchogrwydd a ysgogwyd gan gyflwyniad Sally Attwood yn ein cynhadledd gyntaf. Adroddodd Sally stori bwerus am daith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddefnyddio dodrefn swyddfa a lloriau wedi’u hailweithgynhyrchu ar gyfer gwaith gosod ar raddfa fawr yn 2016. Drwy fabwysiadu cynllun da a gwerthoedd cynhyrchu uchel ar gyfer ail-weithgynhyrchu, a gweithio gyda busnesau cymdeithasol i sicrhau’r gweithlu, sicrhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru amrywiaeth o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd wedi’u hatgynhyrchu mewn prosiectau eraill ers hynny.

Er mwyn cydnabod rôl ganolog gwaith dylunio mewnol da wrth ystyried sut i wneud y defnydd gorau o’n hystad, rhoddodd Ystadau Cymru rywfaint o arian er mwyn i Sally fwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb i ystyried a ellid defnyddio’r dull unigryw hwn o weithredu ar raddfa fwy ledled Cymru. Clywodd y rhai a oedd yn bresennol yn y gynhadledd rai o ganfyddiadau cynnar yr astudiaeth hon - byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi mewn cylchlythyrau yn y dyfodol. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Sally Attwood yn sally.attwood@wales.nhs.uk

Cyhoeddiadau a lansiwyd yn y gynhadledd

Pecyn Cymorth Cydweithredol

Mae’r Pecyn Cymorth Cydweithredol yn cydnabod bod cydweithredu yn arwain at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd fwy effeithlon. Mae cydweithredu yn hanfodol er mwyn i sefydliadau yn y sector cyhoeddus gydweithio i gyfrannu at gyflawni saith nod llesiant Cymru. Mae’r ddogfen yn rhoi arfarniad gonest o realiti cydweithredu, y cyfleoedd y gall eu cynnig, yn ogystal â’r heriau a allai godi ar hyd y ffordd. Bwriedir i’r pecyn cymorth ddarparu canllawiau ac astudiaethau achos enghreifftiol er mwyn dangos sut y gellir sicrhau cydweithredu effeithiol.

Pecyn cydweithredu ynghylch eiddo

Canllawiau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae’r Canllawiau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol yn nodi’r broses pan fydd eiddo’n cael ei drosglwyddo o berchnogaeth neu reolaeth corff sector cyhoeddus i grŵp trydydd sector neu grŵp cymunedol. Yn sgil adborth a gafwyd gan randdeiliaid, mae’r ddogfen wedi’i diweddaru er mwyn sicrhau ei bod yn parhau’n gyfredol.

Mae’r canllawiau eu hunain yn ffrwyth cydweithredu rhwng y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chynghorau tref a chymuned, a nododd fod eu hangen.

Ers iddynt gael eu cyhoeddi gyntaf yn 2015, maent bellach yn un o gonglfeini polisïau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Bwriedir iddynt wella tryloywder a sicrhau bod sefydliadau mewn gwell sefyllfa i drosglwyddo a derbyn asedau, er mwyn iddynt allu datblygu defnyddiau cynaliadwy ar eu cyfer yn ein cymunedau, yn yr hirdymor.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol: canllawiau i ymgeiswyr

Gwobrau Ystadau Cymru 2020

Byddwn yn dechrau derbyn enwebiadau am Wobrau Ystadau Cymru 2020 yn fuan. Ceir manylion am sut i wneud cais yn y rhifyn nesaf o’r cylchlythyr. Yn y cyfamser, dylech ddechrau ystyried a ellid enwebu prosiect asedau cydweithredol rydych wedi bod yn rhan ohono o dan un o’r categorïau canlynol:

  • Creu twf economaidd
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Cynaliadwyedd
  • Darparu gwasanaethau mwy integredig
  • Lleihau costau rhedeg ystadau
  • Menter sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian.

Y newyddion diweddaraf am yr Is-adran Tir

Rydym wedi sefydlu Is-adran Tir newydd o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn cyflymu’r broses o ddatblygu tir yn y sector cyhoeddus er budd polisi cyhoeddus a chynyddu nifer y tai cymdeithasol a fforddiadwy a adeiledir ledled Cymru.

Dan arweiniad Richard Baker, bydd yr Is-adran yn ystyried amrywiaeth o ffyrdd y gallai dull gweithredu i’r sector cyhoeddus ledled Cymru helpu i gyflawni’r agenda cydgasglu tir.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Er mwyn helpu gyda DPP a hyfforddiant yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae RICS yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gwasanaethau digidol, a’r newyddion da (i aelodau RICS) yw bod llawer ohonynt am ddim rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf. Fel bocs o Siocledi maent yn cynnig detholiad cymysg wrth ymdrin ag amrywiaeth ddeniadol ac eang o bynciau sy’n ymwneud ag eiddo ac adeiladu. Os hoffech fanteisio ar y cyfle hwn, dilynwch y ddolen we isod.

Hyfforddiant a digwyddiadau RICS

Caiff y rhan fwyaf ohonynt eu darparu drwy Adobe Connect, nad yw o bosibl wedi’i gefnogi gan eich systemau TGCh corfforaethol. Er mwyn cael mynediad at y rhan fwyaf o weminarau sy’n cael eu cynnig, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio eich dyfeisiau preifat eich hun. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer sesiwn, anfonir neges e-bost o gadarnhad atoch gyda manylion am sut i gymryd rhan, gan gynnwys dolen brawf er mwyn sicrhau y gallwch gael mynediad.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am waith Ystadau Cymru, cysylltwch ag: YstadauCymru@llyw.cymru

Ystadau Cymru

Cydweithio i gael y gorau o’r ystad gyhoeddus
Working together to make the best use of the public estate